![Diwrnodau Agored Israddedig](/cy/gyrfaoedd-gig/gwyddonydd-gofal-iechyd/HCS-featured-image-%281%29.jpg)
Diwrnodau Agored Israddedig
Cofrestrwch NawrMae gwyddonwyr gofal iechyd yn gweithio i ddiagnosio, monitro, atal, rheoli a thrin salwch a chyflyrau gan ddefnyddio dealltwriaeth o’r gwyddorau dynol, gan gynnwys bioleg, cemeg a ffiseg. Maent yn defnyddio eu harbenigedd i wella gofal cleifion ac achub bywydau, neu i helpu pobl i fyw'n annibynnol drwy adsefydlu, naill ai fel cyswllt uniongyrchol i gleifion neu mewn rôl gefnogol.
DOD O HYD I'CH GOFOD CLIRIO
Poeni am eich canlyniadau arfaethedig, neu eisiau curo'r rhuthr Clirio? Cofrestrwch eich diddordeb nawr, ar gyfer Clirio yn Abertawe. Ewch i'n tudalen Clirio i ddarganfod mwy.
Darganfod mwy am GlirioEin Straeon myfyrwyr
Beth sy'n Gwneud y Gwyddorau Gofal Iechyd yn Abertawe yn Unigryw?
![Myfyrwyr Gwyddor Gofal Iechyd](/cy/gyrfaoedd-gig/gwyddonydd-gofal-iechyd/750x435-781-Human_Health_Sciences_799.jpg)
Rydym yn y 10 uchaf yn y DU am Anatomeg a Ffisioleg ac yn 1af ar gyfer Rhagolygon Graddedigion (Times Good University Guide 2024) ac mae ein cyrsiau wedi’u hachredu’n llawn gan gyrff diwydiant proffesiynol. Mae ein cyfleusterau rhagorol yn darparu efelychiadau realistig o’r gweithle ac mae llawer o’n staff academaidd yn y Gwyddorau Iechyd yn glinigwyr wrth eu gwaith, gan ddarparu mewnwelediad ac arbenigedd proffesiynol amhrisiadwy.
Rydym yn hyfforddi ar draws amrywiaeth o rolau clinigol cysylltiedig, sy'n rhoi mynediad i chi at gyfoeth o brofiad clinigol gan ein staff addysgu lle bydd ein hymrwymiad i addysgu sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn eich rhoi ar flaen y gad yn eich dewis o ddisgyblaeth gwyddorau gofal iechyd ac yn eich paratoi i wneud gwahaniaeth fel rhan o dîm clinigol.
Graddau a Gyllidir yn Llawn
Gallai dewis i ddilyn eich brwdfrydedd am ofal iechyd dalu ar ei ganfed. Mae hamrywiaeth hwn o raddau wedi'u hariannu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru.
Golyga hyn os byddwch chi'n ymrwymo i weithio i GIG Cymru am gyfnod ar ôl i chi raddio, bydd eich ffioedd addysgu yn cael eu talu'n llawn gan Fwrsariaeth GIG Cymru, yn ogystal â chyllid cynhaliaeth gwerth hyd at £4,491 a benthyciad gan Gyllid Myfyrwyr.
Rhagor o wybodaeth am Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru