Pam astudio Meddygaeth Niwclear ym Mhrifysgol Abertawe?
Mae ein cwrs BSc mewn Meddygaeth Niwclear yn cael achredu gan yr Ysgol Genedlaethol Gwyddorau Gofal Iechyd ac yn rhoi'r hyfforddiant arbenigol sydd ei angen arnoch i ddechrau gyrfa fedrus, gwerth chweil yn y proffesiwn gofal iechyd fel technolegydd ffiseg feddygol/technolegydd meddygaeth niwclear.
Mae llawer o'n staff academaidd yn gweithio fel gwyddonwyr gofal iechyd hefyd, gan gynnig cyfuniad heb ei ail o drylwyredd gwyddonol ac arbenigedd proffesiynol.