Pam Astudio Nyrsio yn Abertawe?

Pan fyddwch yn astudio Gradd Nyrsio gyda ni byddwch yn rhan o 30 o Brifysgolion Gorau (The Guardian University Guide 2024) gyda chymuned sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn feunyddiol. Mae gennym dros 25 mlynedd o brofiad o hyfforddi pobl ar draws ehangder ymarfer clinigol, ac rydym yn falch o gael ein rhestru fel un o’r 10 rhaglen Nyrsio Gorau (The Times Good University Guide 2024). Mae ein dull gofalgar sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr wedi rhoi profiad a chanlyniadau myfyrwyr gan arwain at 100% o Gyflogadwyedd Graddedigion (HESA 2022) ac yn 1af ar gyfer rhagolygon gyrfa (The Guardian University Guide 2024).

Nyrsio Oedolion

Mae Nicholas Costello yn siarad â ni am ei brofiad o astudio Nyrsio i Oedolion yn Abertawe a sut "nad oes unrhyw beth gwell na'r teimlad a gewch chi wrth helpu rhywun mewn angen."

Nyrsio Plant

Mae Daniel Roberts ac Emily Nue yn astudio Nyrsio Plant yn Abertawe. Yma, maent yn trafod y sgiliau amrywiol y mae eu hangen arnoch er mwyn siarad â baban neu blentyn un funud, ac oedolion y funud nesaf.

Nyrsio Iechyd Meddwl

Mae defnyddio ei phrofiad bywyd hi wedi helpu Rachel Huggins i ddysgu i gefnogi eraill a bod y nyrs orau y gall fod. Mae Rachel yn ei thrydedd flwyddyn fel Nyrs Iechyd Meddwl.

Nyrsio Anableddau Dysgu

Mae Liz Hayday, Uwch Ddarlithydd Nyrsio Anabledd Dysgu, yn siarad am y sgiliau y byddwch yn eu hennill wrth astudio a sut y bydd Abertawe yn eich helpu i ddod yn nyrs anabledd dysgu eithriadol.

Cwestiynau a ofynnir yn aml

  

Ffyrdd y gallwch ymweld â ni

Bob blwyddyn mae Prifysgol Abertawe'n cynnal nifer o Ddiwrnodau Agored i Raddedigion, sy'n cael eu cynnal yn yr hydref, y gwanwyn a'r haf - dyma'ch cyfle i ymweld â'n campws yn Singleton, mynd ar daith o amgylch ein cyfleusterau o'r radd flaenaf, ac ymuno â'n sgyrsiau pwnc i ddysgu mwy am ein graddau nyrsio (lle gallwch hefyd siarad â'n darlithwyr a myfyrwyr nyrsio presennol).

Archebwch eich lle ar Ddiwrnod Agored nawr!

Sesiynau Gwybodaeth Rhithwir Campws Caerfyrddin

Mae'n bleser gennym eich croesawu i gyfres o ddigwyddiadau rhithwir a fydd yn eich cyflwyno i'r cyfleoedd gyrfa y gallech ddechrau arnynt drwy astudio gradd Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin.


Sylwer bod y digwyddiadau hyn ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn astudio Nyrsio Oedolion ar ein campws ategol yng ngorllewin Cymru (Parc Dewi Sant, Ffordd Ffynnon Job, Caerfyrddin SA31 3HB) ac nid ar Gampws Parc Singleton Prifysgol Abertawe.

  • Dydd Gwener 14 Mawrth 2025 (18:00/19:00)
  • Dydd Mercher 14 Mai 2025 (18:00/19:00)
  • Dydd Mawrth 15 Gorffennaf 2025 (18:00/19:00)

Profiad Myfyrwyr Nyrsio

Rydym yn angerddol am bob maes nyrsio ac yn croesawu’n llawn y gwerthoedd craidd sy’n gysylltiedig â’r ‘proffesiwn gofalu’ ac yn ymdrechu i sefydlu’r gwerthoedd hyn yn ein myfyrwyr a’n perthnasoedd â nhw. Rydym yn cynnig cymhareb staff-myfyriwr gwych, a golyga hyn y byddwch yn cael eich cefnogi'n dda gan gyfoeth o fodelau rôl gwybodus trwy gydol eich amser yn astudio gyda ni.

Peidiwch â chymryd ein gair ni’n unig, darganfyddwch beth yw barn ein myfyrwyr Nyrsio am astudio nyrsio gyda ni, ac archwiliwch yr holl opsiynau a chyfleoedd gwahanol a fydd ar gael i chi pan fyddwch yn astudio gyda ni.

Carli Andrews
Student portrait with long blonde hair

Mae anogaeth y Brifysgol i sicrhau bod nyrsys dan hyfforddiant yn cael eu cynnwys mewn gweithgareddau allgyrsiol megis y Coleg Nyrsio Brenhinol a rolau anhygoel eraill yn helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol ond hefyd eu sgiliau gyrfa a rhwydweithio.

Dysgwch fwy am stori myfyriwr Carlie...

Mikey Denman Jessica Bain

Graddau a Gyllidir yn Llawn

Gallai dewis i ddilyn eich brwdfrydedd am ofal iechyd dalu ar ei ganfed. Mae hamrywiaeth hwn o raddau wedi'u hariannu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru.

Golyga hyn os byddwch chi'n ymrwymo i weithio i GIG Cymru am gyfnod ar ôl i chi raddio, bydd eich ffioedd addysgu yn cael eu talu'n llawn gan Fwrsariaeth GIG Cymru, yn ogystal â chyllid cynhaliaeth gwerth hyd at £4,491 a benthyciad gan Gyllid Myfyrwyr. 

Rhagor o wybodaeth am Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru
Myfyrwyr yn rhannu gwybodaeth

Prifysgol Abertawe : Cyllid ar gyfer Rhaglenni a Ariennir gan y GIG

Diddordeb mewn astudio cwrs a ariennir gan y GIG ym Mhrifysgol Abertawe? Ymuna â Thîm Bwrsariaethau y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd i archwilio ariannu a chyllid ac i gael atebion i'th gwestiynau!

Cofrestrwch yma

Cyllid y GIG

08/04/2025

16:00 - 17:00 BST

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen

Ein hopsiynau Cwrs Nyrsio

Nyrsio Oedolion
Adult Nursing Students

Mae ein cyrsiau Nyrsio Oedolion yn dod â staff academaidd o nyrsys, meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol cymwys ynghyd.  Wrth i chi hyfforddi i ddod yn nyrs oedolion arbenigol, byddwch yn elwa o'n cysylltiadau cryf â byrddau iechyd lleol, a'n hystafelloedd hyfforddiant clinigol realistig rhagorol sy'n cynnwys realiti rhithwir integredig.

Ein Hopsiynau Cwrs Nyrsio Oedolion:

*Gall myfyrwyr rhyngwladol sy’n ymgeisio am ein cwrs BSc Nyrsio Oedolion (Abertawe) fod yn gymwys am ein hopsiwn a ariennir yn llawn – ewch i’n tudalen Ymgeiswyr Nyrsio Rhyngwladol am ragor o wybodaeth 

Nyrsio Plant Nyrsio Anableddau Dysgu Nyrsio Iechyd Meddwl
NSS infographic
NSS Infographic

Trafodwch eich opsiynau gyda'n Pennaeth Nyrsio

Ddim yn siŵr a ddylid astudio'n llawn amser, rhan-amser neu ar ein cwrs hyblyg? Trafodwch eich opsiynau gyda Catherine Norris, ein Pennaeth Nyrsio:

Mrs Catherine Norris

Mrs Catherine Norris

Athro Cyswllt, Nursing
JavaScript is required to view this email address.

99% Cyflogadwyedd

Pan fyddwch yn graddio, byddwch yn gymwys i gyflwyno cais am statws Nyrs Gofrestredig (Oedolion) gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a chofrestru fel nyrs i weithio yn yr UE ac AEE. Mae rhagolygon swyddi yn rhagorol, ac mae 99% o'n graddedigion nyrsio mewn cyflogaeth mewn swydd broffesiynol neu reoli o fewn 6 mis (Astudiaeth o Ymadawyr Addysg Uwch, 2018). Gallwch ddisgwyl cyflog cychwynnol o £24,214, sy'n codi i £43,772 am nyrs staffio profiadol. Gall nyrsys arbenigol a rheolwyr ymarfer ennill £45,000.

Eich Cyfweliad

Rydym yn cyfweld ag ymgeiswyr ar gyfer llawer o'n cyrsiau, gan gynnwys Nyrsio, Gwyddorau Gofal Iechyd, Fferylliaeth a Gwaith Cymdeithasol.

Rydym wedi creu canllaw 'tips cyfweliad' i roi gwybod i chi beth i'w ddisgwyl o'ch cyfweliad, a sut y gallwch baratoi'n well.

Awgrymiadau Cyfweliad