Mae Ffisiotherapyddion a Therapyddion Galwedigaethol yn rhannu gwaith mewn rhai lleoliadau, yn enwedig mewn ysbytai a lleoliadau iechyd, ac mae ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol yn gweithio ar y cyd i helpu pobl i reoli anableddau wrth ad-sefydlu neu adfer o broblemau iechyd corfforol. Yn y lleoliadau hyn, gall gweithwyr proffesiynol weithio i wella swyddogaeth ac ansawdd bywyd cyffredinol y person maent yn gweithio gydag ef/hi, drwy eu helpu i gynnal neu wella eu hiechyd a’u lles. Mae therapyddion galwedigaethol yn gweithio gyda phobl â phroblemau iechyd meddwl neu yn y gymuned, megis sefydliadau gwirfoddol, yn fwy na ffisiotherapyddion.
Y prif wahaniaeth rhwng y ddau broffesiwn pan fyddant yn gweithio ar y cyd yw bydd Therapydd Galwedigaethol yn canolbwyntio’n fwy ar hwyluso ymgysylltiad diogel ac effeithiol mewn gweithgareddau o ddydd i ddydd. Maent yn hyrwyddo annibyniaeth ac yn cefnogi pobl sy’n defnyddio gwasanaethau a’u gofalwyr mewn unrhyw bontio neu heriau byddant yn eu hwynebu.