Mynegwch eich diddordeb yn Haf 2026 os hoffech chi i ni gysylltu â chi pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael.

Mae cyfleoedd i dreulio semester dramor yn ffordd wych o gael profiad diwylliannol a rhyngwladol ochr yn ochr â'ch astudiaethau. Fel arfer mae'r rhaglenni'n para rhwng dwy a naw wythnos ac yn rhoi cyfle i chi gael profiad diwylliannol, gwirfoddoli a/neu academaidd mewn gwlad arall. Mae cyllid hael ar gael drwy'r rhaglenni Turing neu Taith i dalu ychydig o'r costau cysylltiedig ac mae cymorth ychwanegol ar gael i unrhyw fyfyriwr sy'n bodloni'r meini prawf ehangu cyfranogiad.Mae'r cyllid yn gyfyngedig.

Cynigir pob rhaglen yn amodol ar gymeradwyaeth teithio lawn. Bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau proses cymeradwyo teithio rhyngwladol y Brifysgol er mwyn cymryd rhan mewn rhaglenni'r haf a chael unrhyw gyllid cysylltiedig. Mae yswiriant teithio  Prifysgol Abertawe yn berthnasol i fyfyrwyr y mae'r Brifysgol wedi cymeradwyo eu cynlluniau teithio. 

Sylwer, mae angen i fyfyrwyr fod yn gofrestredig ym Mhrifysgol Abertawe drwy gydol holl gyfnod rhaglen yr haf felly nid yw myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf na myfyrwyr cyfnewid yn gymwys ar gyfer y rhaglenni hyn.

 

GWIRFODDOLI, INTERNIAETHAU A RHAGLENNI SY’N SEILIEDIG AR WAITH

Mae ystod o wahanol raglenni ar gael sy'n cynnig ystod o opsiynau haf dramor. 

RHAGLENNI DIWYLLIANT AC ASTUDIO

Ymunwch â rhaglen ddiwylliannol i ddysgu mwy ac i brofi diwylliant gwahanol. Fel arall, cofrestrwch ar gyfer rhaglen astudio i archwilio eich pwnc maes mewn mwy o fanylder neu ddysgu rhywbeth newydd yr haf hwn.

Llun o grwp ger clogwyn