Pam Astudio Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae gradd BSc (Anrh) Gwaith Cymdeithasol ac Gwaith Cymdeithasol, MSc Abertawe wedi’i lleoli yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, darparwr addysg gofal iechyd mwyaf Cymru.

Drwy gydol eich astudiaethau byddwch yn elwa o amgylchedd dysgu deinamig sy’n ffocysu ar ofal iechyd, yn ogystal â chysylltiadau rhagorol ag asiantaethau gwasanaethau cymdeithasol, awdurdodau lleol a’r sectorau gwirfoddol ar draws de a gorllewin Cymru. Cewch brofiad helaeth a byddwch yn meithrin sgiliau er mwyn i chi adeiladu eich sgiliau ar gyfer eich gyrfa gwaith cymdeithasol.

Beth mae Gweithwyr Cymdeithasol yn ei wneud?

Mae gweithwyr cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl a chymunedau mae angen gofal a chymorth arnynt. Byddwch yn gweithio gyda phobl sy'n defnyddio gwasanaethau a gofalwyr i ddysgu beth sy'n bwysig iddyn nhw a chydweithio i ganfod sut gallant gyflawni eu nodau. Byddwch yn gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau, gan gynnwys plant a theuluoedd, pobl hŷn, pobl ifanc ac oedolion â gwahaniaethau dysgu, gofalwyr maeth a mabwysiadwyr a llawer mwy.

Byddwch chi hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau a phroffesiynau eraill, gan gynnwys awdurdodau lleol a'r trydydd sector, ysgolion, yr heddlu ac eraill, i sicrhau bod gofal a chymorth digonol yn cael eu darparu.

Dyma gyrfa ddelfrydol os ydych chi'n mwynhau gweithio gydag eraill a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Study by the beach at Swansea University

Ein Straeon myfyrwyr

Awel Haf Pritchard Jones
Llun Awel

"Rydw i wedi dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd rwy’n gobeithio gweithio fel Gweithiwr Cymdeithasol Cymraeg. Mae cael y cyfle i weithio hefo pobl sydd yn siarad neu'n dysgu Cymraeg yn fraint fawr i mi, gan fod y Gymraeg yn rhan bwysig o'm hunaniaeth, sydd yn cefnogi fy natblygiad academaidd.

Ar leoliadau gwaith, rwyf wedi gweld y gwahaniaeth y mae defnyddio’r Gymraeg yn ei wneud wrth i fi helpu pobl ac rwy’n cydnabod pwysigrwydd gweithio gyda phobl yn eu mamiaith, gan fod hyn yn cyfoethogi perthynas a phrofiad yr unigolyn. Yn aml, maent yn ymlacio’n gynt i'r sefyllfa ac yn ymddiried yn y berthynas broffesiynol. Mae yna alw mawr am weithwyr Cymraeg eu hiaith gan y Llywodraeth a Chyngor Gofal Cymru."

Darganfod mwy am stori myfyriwr Awel

Cyfleoedd Ariannu

Gallai dewis dilyn eich angerdd am ofal iechyd dalu ar ei ganfed.

Mae myfyrwyr sy'n cael eu derbyn i astudio ar gyfer gradd mewn Gwaith Cymdeithasol Gradd neu Radd Meistr yn gymwys i wneud cais am Fwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol Gofal Cymdeithasol Cymru i helpu i ariannu eu hastudiaethau. Mae rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio a’r bwrsariaethau sydd ar gael ar gael yma.

PA GYRFAOEDD ALLAI FOD YN AGOR I MI PAN FYDDAF I'N GRADDIO?

Ar ôl graddio byddwch yn gymwys i gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol cymwysedig gyda chyrff rheoleiddio yn y DU.

Gall gradd BSc (Anrh) ac MSc mewn Gwaith Cymdeithasol agor y drws i ystod eang o gyfleoedd gyrfa a disgyblaethau, yn ogystal ag astudiaeth bellach o fewn y maes. Yn ogystal â dod yn weithiwr cymdeithasol, gall eich gradd eich arwain at rolau gwerth chweil a chyffrous o fewn gofal iechyd, y byd academaidd, sefydliadau'r llywodraeth, y sector preifat a mwy.

Am wybod mwy?

Mae gennym ni gymaint mwy rydyn ni eisiau ei rannu gyda chi, beth am archwilio ein tudalennau cwrs Gwaith Cymdeithasol neu archebu lle ar ein diwrnod agored nesaf.

Am ddarganfod mwy am Abertawe?

Ydych chi’n cael eich ysbrydoli i astudio ar gyfer gradd Gwaith Cymdeithasol? Treuliwch yr amser i archwilio ein campws o gysur eich cartref eich hun gan ddefnyddio ein rhith-daith, siaradwch â rhai o'n myfyrwyr cyfredol am sut brofiad yw astudio yn Abertawe a sicrhewch eich bod chi'n cofrestru ar gyfer ein  nesaf lle gallwch, yn bersonol, brofi Abertawe, ein cymuned a'n cyrsiau.