DARGANFOD EICH POTENSIAL
Ydych chi'n angerddol am adeiladu byd iachach a dylanwadu ar bolisi iechyd? Ydych chi eisiau gwella'ch sgiliau arwain, dylunio a darparu gofal cynhwysfawr i sicrhau newid cadarnhaol? Bydd rhaglenni MSc Hybu Iechyd a Rheoli Iechyd Cyhoeddus a Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe yn rhoi sylfaen berffaith i chi lansio'ch gyrfa yn y sector iechyd cyhoeddus a gofal iechyd yn fyd-eang.
Os ydych chi'n gweithio mewn rôl reoli sy'n gysylltiedig ag iechyd ar hyn o bryd ac eisiau adeiladu ar eich profiad neu os ydych chi am ddatblygu eich diddordeb yn y maes hwn, bydd ein gradd meistr mewn Rheoli Gofal Iechyd gyda'i ystod eang o fodiwlau yn eich sbarduno i'ch gyrfa ddymunol. Yn yr un modd, p'un a ydych eisoes yn weithiwr proffesiynol sy'n gweithio, neu'n newydd i'r pwnc, mae ein MSc mewn Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd wedi'i gynllunio'n ofalus i hogi'ch sgiliau ymchwil a dadansoddi a gwella'ch gwybodaeth i hyrwyddo ac amddiffyn iechyd y cyhoedd fel y gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd bywydau pobl.
Mae nifer o'n graddedigion wedi mynd ymlaen i arwain gyrfaoedd llwyddiannus yn y sector gofal iechyd ac wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl a'r gymuned. Dyma ychydig o'r gyrfaoedd hynny a rhai enghreifftiau o'r llwybrau y gallwch chi eu dilyn:
- Cyfarwyddwr Clinigol Cynorthwyol
- Rheolwr Gofal Tymor Hir
- Rheolwr Ansawdd
- Gweithiwr Sector Elusennau
Dewch i gwrdd â Madalina Pop, un sydd wedi graddio o gwrs MSc Abertawe, Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd, ac sydd bellach yn Gomisiynydd Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Bwrdeistref Newham yn Llundain.
"Adeiladodd Prifysgol Abertawe ar fy sgiliau proffesiynol i ymladd ac amddiffyn iechyd y cyhoedd. Yma dysgais i fod hyd yn oed yn fwy angerddol am fy maes a gweld iechyd y cyhoedd fel ffordd o fyw i mi ac i'r cymunedau y byddaf yn eu helpu yn ystod fy ngyrfa. Byddwn wir yn annog myfyrwyr i gael profiad o astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n gymysgedd perffaith rhwng amgylchedd cefnogol proffesiynol i'ch helpu chi i dyfu a chael hwyl bywyd myfyriwr. Fe wnes i gyfarfod â phobl wych ym Mhrifysgol Abertawe a fydd yn parhau i fod yn ffrindiau i mi am oes. "