Gwella gofal personol a llesiant pobl hyn sydd â dementia
Nodau’r prosiect:
Cynllunnir y model ymyrryd i ddod â thrigolion hŷn sydd â dementia ysgafn i gymedrol ynghyd â phobl iau o'u cymuned, yng nghyd-destun anffurfiol, cyfarwydd y lleoliad byw â chymorth, i ddatblygu a rhannu gweithgareddau sy'n cynnwys traddodiadau coginio a pharatoi bwyd.
Defnyddir techneg Mapio Gofal Dementia i arsylwi ac asesu effaith caiff y gweithgareddau yma ar lesiant preswylwyr hŷn.
Gellir defnyddio canfyddiadau i deilwra cynlluniau gofal unigol.
Effaith posib yr ymchwil:
- darparu sail tystiolaeth rymus ar gyfer ymestyn model ymyrraeth i osodiadau gofal arall
- gwella ymarfer personol y preswylydd
- cyfoethogi llesiant preswylwyr
- cynnig cyfleoedd i ddylanwadu ymwybyddiaeth gyhoeddus am ddementia.
Cyswllt Arweiniol:
Dr Sarah Hillcoat-Nallétamby, Athro Cyswllt, Polisi Cymdeithasol & Heneiddio, Y Ganolfan Ymchwil Heneiddio Arloesol a’r Ganolfan ar gyfer Ymchwil Heneiddio a Dementia.
Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Prifysgol Abertawe