Nod y Grŵp Profiad Cleifion a Gwerthuso mewn Ymchwil (PEER) yw darparu persbectif gwerthfawr i gleifion/gofalwyr yn gynnar yn y broses ymchwil.
Mae'r grŵp PEER yn cyfarfod bob mis ym Mharc Singleton, Prifysgol Abertawe, i drafod a gwneud argymhellion am gynigion ymchwil.
Sut i gael mynediad i'r grŵp ymchwil
Bydd angen i ymchwilwyr sy'n dymuno i'w cynigion gael eu hystyried archebu slot trwy'r porthor, ac anfon eu cynnig ar y templed gofynnol, bythefnos cyn y cyfarfod. E-bostiwch y cynigion i fmhlshealthvolunteers@swansea.ac.uk
Bydd gofyn i ymchwilwyr fynychu'r cyfarfod i drafod eu hymchwil arfaethedig. Bydd cyfle hefyd i drafod syniadau ymchwil cynnar, nad ydynt wedi’u ffurfio’n llawn, yn ystod slot trafod byr.
Bydd ymchwilwyr yn cael adborth llafar yn ystod y drafodaeth grŵp PEER.
Gofynnir i bob ymchwilydd sy’n cysylltu â’r grŵp a ydynt yn fodlon caniatáu i’w data dienw gael ei ddefnyddio at ddibenion ymchwil ac archwilio.
Pam 'Claf'?
Dewiswyd yr enw PEER gan aelodau'r grŵp ac mae'n adlewyrchu ein hunaniaeth fel lleisiau cleifion. Rydym yn aelodau o'r cyhoedd yn darparu persbectif claf/gofalwr. Hyrwyddwn y syniad o gleifion gweithgar yn cymryd rhan mewn trafodaethau am ddyluniad a chyfeiriad ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn ychwanegu gwerth at amgylchedd ymchwil yr Ysgol.