Addysgir Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg ar ein dwy raglen flaenllaw, y BA mewn Ieithoedd Modern a'r BA mewn Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, yn ogystal ag amrywiaeth o opsiynau Cydanrhydedd. Mae'r rhain yn cynnwys Rheol BSc (Anrh)i Busnes, Llenyddiaeth Saesneg, Hanes, Cysylltiadau Rhyngwladol, a'r rhaglen a gyflwynwyd yn ddiweddar, Anrhydedd Cyfunol, sy'n rhoi cyfle i chi ddewis o holl fodiwlau'r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu.
Mae Ffrangeg wedi cael ei haddysgu yn Abertawe ers i'r Brifysgol gael ei sefydlu ym 1920 a chredir mai'r Athro Mary Williams, sef Pennaeth cyntaf ein Hadran, oedd y fenyw gyntaf i gael ei phenodi i Gadair mewn unrhyw bwnc academaidd yn y DU.
Mae pum aelod staff parhaol yn yr adran Ffrangeg:
- Dr Greg Herman
- Dr Kathryn Jones
- Dr Jo Langley
- Mrs Ariane Laumonier
- Dr Sophie Rouys
Mae ein tîm Ffrangeg yn cyfuno addysgu iaith dynamig ag arbenigedd ymchwil helaeth. Rydym yn darparu addysgu o ansawdd uchel yn yr iaith Ffrangeg, ynghyd â modiwlau cyflwyniadol, arbenigol ac ôl-raddedig mewn cyfieithu a chyfieithu ar y pryd proffesiynol. Rydym hefyd yn cynnig craffter wedi'i lywio gan ymchwil o ffilmiau Ffrangeg modern, llenyddiaeth, barddoniaeth, traddodiadau diwylliannol a hanes, ynghyd ag arbenigedd mewn llên deithio, cof, gwrthdaro, rhywedd, astudiaethau ôl-drefedigaethol, ieithoedd lleiafrifiedig a sinema'r byd. Gyda'i gilydd mae aelodau'r tîm yn sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn rhugl yn yr iaith ac yn meithrin ymwybyddiaeth ddiwylliannol a dyfnder dadansoddol wedi'u gwreiddio mewn ymchwil gyfredol.
Wrth astudio Ffrangeg yn Abertawe, byddwch yn rhan o gymuned groesawgar a chefnogol sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Mae'r Gymdeithas Ffrangeg sy'n cael ei harwain gan fyfyrwyr yn cynnig digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd, nosweithiau ffilm, dathliadau diwylliannol a gwibdeithiau, gan greu lle cynhwysol i gwrdd â phobl eraill sy'n rhannu diddordeb yn yr iaith Ffrangeg ac mewn diwylliannau Ffrangeg. Bydd sesiynau Caffi Iaith wythnosol yn rhoi cyfle i chi ymarfer sgwrsio â siaradwyr brodorol a chyd-fyfyrwyr mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Bydd y gweithgareddau hyn yn eich galluogi i fagu hyder, meithrin cyfeillgarwch a chryfhau eich ymdeimlad o berthyn - p'un a ydych yn ddechreuwr neu'n siaradwr rhugl. Gyda'i gilydd, maen nhw'n creu amgylchedd lle bydd dysgu iaith yn rhan o'ch bywyd pob dydd.
I lawer o fyfyrwyr, mae'r Flwyddyn Dramor yn brofiad trawsnewidiol sy’n un o uchafbwyntiau astudio Ffrangeg yn Abertawe, ac un o'r manteision pennaf yw y gallwch deilwra'r profiad hwn yn ôl eich anghenion a'ch dewisiadau chi: mae rhai myfyrwyr yn dewis addysgu Saesneg drwy gynllun y British Council, mae eraill yn dewis astudio yn un o'n prifysgolion partner. Mae hefyd yn bosib cael profiad gwerthfawr drwy leoliad gwaith mewn gwlad lle siaredir Ffrangeg. Boed mewn ystafell ddosbarth, darlithfa neu leoliad proffesiynol, byddwch yn ymdrochi yn yr iaith a'r diwylliant, gan fagu annibyniaeth, hyder ac ymwybyddiaeth fyd-eang. Ar y cyfan, mae'r flwyddyn hon yn gyfle arbennig i fyw dramor, cael profiad uniongyrchol o'r iaith a'r diwylliant, cwrdd â phobl newydd, a chael profiad a fydd yn rhoi gwir fantais i chi yn eich gyrfa!