Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa ym maes cyfieithu, cyfieithu ar y pryd neu wasanaethau iaith, mae Prifysgol Abertawe'n cynnig llawer mwy na gradd yn unig. Fel myfyriwr yma, byddwch yn rhan o gymuned ddynamig â meddylfryd blaengar sy'n rhoi i chi brofiad o'r byd go iawn, mynediad at rwydweithiau'r diwydiant a chyfleoedd i brofi ymchwil arloesol a datblygiad proffesiynol.
Un o'r ffyrdd rydym yn gwneud hyn yw ein haelodaeth o APTIS, Cymdeithas Rhaglenni Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd yn y DU ac Iwerddon. Mae APTIS yn cyfoethogi ein graddau israddedig ac ôl-raddedig drwy greu amgylchedd cefnogol lle gall myfyrwyr a darlithwyr rannu syniadau, archwilio datblygiadau newydd ym maes cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, a thrafod y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg gyfieithu. Bob blwyddyn, gall myfyrwyr gymryd rhan yng nghynhadledd APTIS ac ymuno ag amrywiaeth eang o weminarau ar-lein a gynhelir gan aelodau APTIS. Mae APTIS hefyd yn cynnal gwobrau myfyrwyr megis y wobr Great Learning Gains - ac anogir holl fyfyrwyr Abertawe i gyflwyno cais am hon.
Rydym yn falch o hwyluso STING - Grŵp Ymchwil Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd Abertawe - sy'n chwarae rôl allweddol wrth ddod â myfyrwyr, academyddion a gweithwyr proffesiynol y diwydiant ynghyd. Mae STING yn trefnu sgyrsiau, gweithdai a seminarau dan arweiniad myfyrwyr rheolaidd, sy'n helpu i feithrin cymuned ddeallusol fywiog yn ein holl opsiynau iaith. Mae'r digwyddiadau hyn yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau, o ddamcaniaeth gyfieithu i hyfforddiant ymarferol, gan gynnwys trafodaethau am sut mae deallusrwydd artiffisial a modelau iaith mawr yn ail-lunio'r diwydiant cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.
Mae ein myfyrwyr hefyd yn elwa o gymryd rhan yn INSTB, yr International Network of Simulated Translation Bureaus. Drwy'r rhwydwaith hwn, mae myfyrwyr yn cydweithredu â myfyrwyr eraill o brifysgolion ledled Ewrop drwy sefydlu a rheoli ffug gwmnïau cyfieithu fel rhan o'u cyrsiau. Er nad yw'r cwmnïau'n bodoli mewn gwirionedd, mae'r gwaith cyfieithu yn hollol wir. Mae'n rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio ar dasgau byw, meithrin eu profiad, rhoi hwb i'w cyflogadwyedd a chael deunydd gwerthfawr ar gyfer eu CV.
Rydym hefyd yn aelodau o GALA, y Globalization and Localization Association - sefydliad nid er elw o bwys yn y diwydiant gwasanaethau iaith. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd i'n myfyrwyr gysylltu â gweithwyr proffesiynol a darparwyr gwasanaethau iaith ledled y byd ac yn rhoi iddynt fynediad at amrywiaeth eang o adnoddau, gan gynnwys gweminarau a hyfforddiant arbenigol mewn technolegau cyfieithu. Mae GALA hefyd yn rhannu craffter o'r diwydiant, yn cyhoeddi blogiau ac erthyglau ac yn cynnal cynhadledd flynyddol. Ym mis Ebrill 2022, dewiswyd un o'n myfyrwyr i fod yn Fyfyriwr Gwirfoddoli yng Nghynhadledd GALA yn San Diego. Cafodd hi gyfle i fynd i'r gynhadledd am ddim yn gyfnewid am helpu'r sefydliad - cyfle gwych i rwydweithio ag unigolion blaenllaw o'r diwydiant a chael profiad ymarferol.
Ac i fyfyrwyr sydd am ddatblygu eu sgiliau i'r lefel nesaf, rydym yn cynnig ardystiad meddalwedd am ddim mewn offer cyfieithu â chymorth cyfrifiadur (CAT) o safon y diwydiant, megis RWS Trados Studio, memoQ a Phrase. Wrth astudio yn Abertawe, gallwch gael ardystiad swyddogol gan ddatblygwyr y rhaglenni hyn heb fynd i gost ychwanegol. Er enghraifft, mae RWS Trados Studio - yr adnodd CAT mwyaf blaenllaw ar y farchnad - yn cynnig llwybr ardystio cynhwysfawr sy'n cynnwys defnyddio'r feddalwedd, ond hefyd reoli prosiectau ac ôl-olygu.
Mae eich Dyfodol mewn Gwasanaethau Iaith yn Dechrau Yma
P'un a hoffech chi weithio ym maes cyfieithu, cyfieithu ar y pryd, lleoleiddio neu reoli prosiectau, mae Abertawe'n rhoi i chi'r hyfforddiant, y cysylltiadau â'r diwydiant a'r profiad ymarferol i lwyddo. Gyda rhwydweithiau proffesiynol, prosiectau byw a mynediad am ddim at ardystiadau meddalwedd, byddwch yn graddio â mwy na gradd - byddwch yn graddio â mantais yn y farchnad swyddi.