Digwyddiadau UCAS ac Addysg Uwch

Mae ein tîm yn mynd i ffeiriau addysg uwch mewn ysgolion ledled y wlad. Maen nhw'n siarad â theuluoedd a myfyrwyr am y cyrsiau rydym yn eu cynnig ac yn ateb unrhyw ymholiadau sy'n gysylltiedig â'r brifysgol. Os hoffech gael Prifysgol Abertawe yn eich ffair chi, cysylltwch â ni drwy e-bost.

Rydym hefyd yn cynrychioli'r Brifysgol mewn arddangosfeydd addysg uwch ledled y DU, gan gynnwys UCAS, WhatUni a UK Uni Search. Mae'r arddangosfeydd hyn yn gyfle gwych i fyfyrwyr siarad â chynrychiolydd am eu hopsiynau addysg uwch. I ddod o hyd i'ch ffair agosaf, ymwelwch â gwefannau UCASUK Uni Search a WhatUni.

Staff recriwtio mewn Ffair Addysg Uwch

Cynllunio ar gyfer arddangosfa UCAS