Myfyrwyr yn mynd dros nodiadau gydag athro

Os yw'ch myfyrwyr wedi'u gwahodd i gyfweliadau prifysgol, bydd yr erthygl hon yn cynnig rhai awgrymiadau syml y gallwch dynnu eu sylw nhw atynt. Mae’r awgrymiadau hyn hefyd yn berthnasol i gyfweliadau am swyddi neu brentisiaethau.

1. Deall y math o gyfweliad y byddan nhw'n cymryd rhan ynddo

Gallai hyn fod ar ffurf cyfweliad un i un neu banel, fel rhan o grŵp neu ar eu pennau eu hunain.   Gallai fod ar ffurf sgwrs, rhestr o gwestiynau ac atebion, neu asesiad sy'n seiliedig ar dasgau.  Dylai myfyrwyr gymryd amser i ddeall fformat y cyfweliad er mwyn tawelu eu meddyliau ar y diwrnod.

2. Paratoi atebion i gwestiynau cyffredin

Mae cyfweliadau'n gyfle gwych i fyfyrwyr drafod eu cefndir, eu cyflawniadau a'u huchelgeisiau a dangos pam y maent yn ymgeiswyr perffaith am y cwrs.  Dylai myfyrwyr ddefnyddio’r dechneg STAR (sefyllfa, tasg, gweithred, canlyniad) neu ddull tebyg i roi tystiolaeth yn eu hatebion. Dylent ddefnyddio gwefannau a phrosbectysau prifysgol i archwilio'r sefydliad dan sylw, a fforymau megis The Student Room a fydd yn cynnwys cyngor gan fyfyrwyr presennol ar gwestiynau cyfweliad o'r gorffennol.  Cynghorwch myfyrwyr i ailddarllen eu datganiad personol a rhoi cyfle iddynt weld eu geirda UCAS oherwydd gallai tiwtoriaid ofyn cwestiynau sy'n seiliedig ar y rhain.

SYNIAD GWEITHGAREDD: Gofyn i fyfyrwyr feddwl am eu sgiliau allweddol, y math o gwestiynau y gellid gofyn iddyn nhw eu hateb am y sgiliau hyn, a sut y byddent yn eu hateb. Mae modd dechrau gwneud hyn gan ddefnyddio coeden sgiliau - y gwreiddyn yw'r sgil (cyfathrebu, gwaith tîm, annibyniaeth), y canghennau yw sefyllfa pan wnaethant ddefnyddio'r sgil, a'r dail yw'r rheswm pam mae angen y sgil yn ystod y cwrs.

3. Paratoi cwestiynau ar gyfer y cyfwelydd

Fel sy'n wir am gyfweliad arferol, mae hyn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddangos eu diddordeb yn y cwrs a'u brwdfrydedd drosto. Gallent ofyn cwestiwn am fodiwl penodol, yr arddulliau addysgu neu asesu, neu gyfleoedd ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant. Os ydynt yn gwybod enw'r cyfwelydd o flaen llaw, gallai myfyrwyr hefyd ddechrau sgwrs am ei faes ymchwil penodol.

4. Cynllunio materion ymarferol y diwrnod

Os yw'r cyfweliad wyneb yn wyneb, bydd angen i'r myfyriwr feddwl am barcio neu gludiant cyhoeddus a'r amser mae'n ei gymryd i gyrraedd y lleoliad. Os yw'r cyfweliad ar-lein, bydd angen i'r myfyriwr sicrhau bod ganddo'r ddolen gywir ar gyfer y cyfarfod a chyfrif sy'n gweithio gyda'r platfform cyfarfod dan sylw (e.e. Zoom, Teams, Google Classroom). Gan fod rhai myfyrwyr yn teimlo'n anghyffyrddus am eu gweld eu hunain mewn cyfweliad ar-lein, byddai’n syniad da iddyn nhw ymarfer hyn hefyd. Ni waeth ble caiff y cyfweliad ei gynnal, dylai myfyrwyr hefyd feddwl am greu argraff gyntaf dda wrth gynllunio beth i'w wisgo.

Mae'r rhan fwyaf o brifysgolion yn hapus i ateb cwestiynau am unrhyw rai o'r pethau uchod felly cofiwch annog myfyrwyr i gysylltu os nad ydynt yn siŵr am rywbeth.  I gysylltu ag Abertawe, gall myfyrwyr e-bostio study@abertawe.ac.uk neu gyflwyno ymholiad israddedig.