Gall penderfynu ar ddewis cadarn (cyntaf) ac yswiriant (ail) ar gyfer prifysgolion fod yn ben tost i fyfyrwyr, felly rydym wedi rhestru ein 5 awgrym gorau er mwyn annog gwneud penderfyniadau strategol.
1. Arhoswch i'r holl brifysgolion ymateb
Nid oes gan fyfyrwyr ddewis o ran hyn - rhaid iddyn nhw aros am ymatebion gan yr holl brifysgolion ar eu cais UCAS cyn dewis y ddwy orau. Mae hyn yn eu hatal rhag rhuthro i dderbyn y cynnig cyntaf y maen nhw'n ei gael ac yn annog gwneud penderfyniadau doeth.
2. Dylech ystyried amrywiaeth o raddau
Dylai dewis cadarn gynnwys y graddau a ragfynegir neu rai uchelgeisiol, a dylai dewis yswiriant gynnwys graddau ychydig yn is y gellir dibynnu arnynt os nad yw'r arholiadau'n llwyddiannus. Rydym yn argymell amlygu hyn i'r myfyrwyr sy'n rhoi pwysau ychwanegol arnyn nhw eu hunain yn ystod arholiadau, neu'r rhai sy'n poeni am eu canlyniadau.
3. Mynd i ddiwrnodau deiliaid cynnig
Yn aml, nid yw myfyrwyr yn gwybod beth maen nhw ei eisiau gan brifysgol nes iddyn nhw ymweld drostynt eu hunain. I helpu gyda hyn, mae prifysgolion yn cynnal digwyddiadau deiliaid cynnig yn dilyn dyddiad cau UCAS ym mis Ionawr i'r rhai hynny sydd wedi cyflwyno cais a chael cynnig. Fel arfer mae'r rhain yn cynnig gwybodaeth fanylach am y pwnc na diwrnod agored, a gyflwynir drwy sesiynau arddull seminar i gyfleu bywyd mewn prifysgol.
4. Meddyliwch yn ofalus am gynigion diamod
Er y gall diogelwch cynnig diamod dawelu eich meddwl, gall y cynigion hyn gamarwain myfyrwyr os nad ydynt wedi ystyried yn llawn y lleoliad, y cyfleusterau neu gynnwys cwrs y brifysgol. Yn ogystal â hynny, rhaid i rai cynigion diamod gael eu nodi fel dewis cyntaf fel rhan o'u telerau, sy'n golygu na fyddai gan y myfyriwr ddewis yswiriant pe bai’n newid ei feddwl ar ddiwrnod y canlyniadau.
5. Yn anhapus gyda'r hyn sydd ar gynnig? Cyflwynwch gais i UCAS Extra
Os oes gennych fyfyrwyr nad ydynt am dderbyn y cynigion maen nhw wedi'u cael neu sydd heb gael unrhyw gynigion, gallwch eu hannog nhw i gyflwyno cais am chweched cwrs drwy UCAS Extra. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf a bydd angen i fyfyrwyr wrthod unrhyw gynigion y maen nhw wedi'u cael er mwyn cael eu cynnwys yn UCAS Extra. Mae clirio'n agor o fis Gorffennaf, sy'n cynnig cyrsiau amgen i fyfyrwyr os nad ydynt wedi cael eu derbyn gan eu dewisiadau cadarn neu yswiriant.
Os bydd yr holl gynigion wedi dod i law erbyn diwedd mis Mai, rhaid cyflwyno dewisiadau cadarn ac yswiriant erbyn dechrau mis Mehefin. Mae'r holl ddyddiadau a therfynau amser ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol ar wefan UCAS.