Peirianneg Awyrofod, BEng (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
Aerospace equipment

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Mae astudio gradd mewn Peirianneg Awyrofod yn rhoi hyfforddiant arbenigol i chi ar theori a gweithrediad cerbydau awyrennol, o awyrennau a yrrir gan jetiau a phropelorau i gleiderau a hofrenyddion.

Byddwch yn dysgu am y daith beirianneg lawn, o'r cysyniad ar y tir i'w rheoli yn yr awyr. P'un a yw eich prif ddiddordeb yn ymwneud â dylunio, dadansoddi, profi neu hedfan, mae gan Brifysgol Abertawe rywbeth at ddant pawb.

Pam Peirianneg Awyrofod yn Abertawe?

  • 13fed yn y DU am Ansawdd Addysgu (Guardian University Guide 2025) 
  • 15eg yn y DU am Ragolygon Graddedig (Complete University Guide 2025)
  • 131 yn y byd (Peirianneg Fecanyddol, Awyrofod a Gweithgynhyrchu) (QS World University Rankings 2025)

Mae Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe yn aelod o grŵp prifysgolion mawreddog y Consortiwm Ymchwil Awyrofod (ARC)

Eich Profiad Peirianneg Awyrofod

Mae'r cwrs amlddisgyblaethol tair blynedd hwn yn treiddio i atmosffer ein planed a'r cosmos y tu hwnt gan ddefnyddio enghreifftiau go iawn, yn ogystal â'r technolegau sydd eu hangen i'w harchwilio. Wrth i chi fynd yn eich blaen drwy'r cwrs, bydd y galluoedd dadansoddol y byddwch yn eu datblygu yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddefnyddio cyfarpar o'r radd flaenaf, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth mewn diwydiant awyrofod ehangach.

Yn eich ail flwyddyn, mae'n bosibl y byddwch yn cael gwersi hedfan. Bydd gweithio â chyfleusterau fel Efelychwr Hedfan Peirianneg Merlin MPX521, Injan JetCat P120 a thwnnel gwynt pwrpasol gwerth £1.2miliwn yn sicrhau eich bod bob amser ar flaen y gad.

Cyfleoedd Cyflogaeth Peirianneg Awyrofod

Mae graddedigion BEng Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe yn cael eu rhoi ar ben y ffordd i gael amrywiaeth o gyfleoedd ysgogol. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol. 

  • Peiriannydd Dylunio Awyrennau
  • Gwyddonydd Rocedi
  • Peiriannydd Amddiffyn
  • Peilot Cwmni Awyrennau
  • Peiriannydd Rheilffyrdd Cyflymder Uchel
  • Peiriannydd Profion Hedfan
  • Aerodynamydd mewn diwydiant Chwaraeon Modur a'r Sector Ynni Cynaliadwy

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi dreulio BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT (UCAS H402) yn y DU neu dramor, gan roi profiad gwerthfawr yn y gweithle yn ogystal â chyflog sydd ar hyn o bryd dros £15,000 ar gyfartaledd. Darperir cymorth ac arweiniad I’ch helpu i sicrhau lleoliad.

Rydym hefyd yn cynnig cyfle i chi ASTUDIO DRAMOR (UCAS H401) mewn prifysgol bartner sy'n cyfoethogi'r radd, gan roi profiad diwylliannol ac ieithyddol gwerthfawr a all ehangu'ch gorwelion wrth drio am swydd.

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn canolbwyntio ar bynciau sy'n cynnwys dadansoddi peirianneg, mecaneg, dylunio, thermodynameg a mecaneg hylifau.

Bydd opsiynau diweddarach yn eich galluogi i arbenigo mewn un o dair elfen: Y Gofod, Strwythurol/Cyfrifiannol neu Ddeunyddiau/Gyriant.

Adam Kidy, BEng Peirianneg Awyrofod gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, Rolls-Royce

Peirianneg Awyrofod

Peirianneg Awyrofod gyda Blwyddyn Dramor

Peirianneg Awyrofod gyda Blwyddyn mewn Diwydiant