Trosolwg o'r Cwrs
Mae astudio gradd mewn Peirianneg Awyrofod yn rhoi hyfforddiant arbenigol i chi ar theori a gweithrediad cerbydau awyrennol, o awyrennau a yrrir gan jetiau a phropelorau i gleiderau a hofrenyddion.
Byddwch yn dysgu am y daith beirianneg lawn, o'r cysyniad ar y tir i'w rheoli yn yr awyr. P'un a yw eich prif ddiddordeb yn ymwneud â dylunio, dadansoddi, profi neu hedfan, mae gan Brifysgol Abertawe rywbeth at ddant pawb.
Mae'r cwrs amlddisgyblaethol tair blynedd hwn yn treiddio i atmosffer ein planed a'r cosmos y tu hwnt gan ddefnyddio enghreifftiau go iawn, yn ogystal â'r technolegau sydd eu hangen i'w harchwilio.
Wrth i chi fynd yn eich blaen drwy'r cwrs, bydd y galluoedd dadansoddol y byddwch yn eu datblygu yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddefnyddio cyfarpar o'r radd flaenaf, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth mewn diwydiant awyrofod ehangach.