Trosolwg o'r Cwrs
O'r We Fyd-eang a rhwydweithiau ffonau symudol byd-eang i liniaduron, cerbydau trydan, a ffynonellau ynni adnewyddadwy, mae Peirianneg Electronig a Thrydanol yn llunio'r byd pob dydd o'n cwmpas.
Mae galw mawr am raddedigion Peirianneg Electronig a Thrydanol medrus ac mae cyfleoedd iddynt weithio ym mhob cwr o'r byd. Bydd y cwrs gradd hwn yn eich hyfforddi ar gyfer gyrfa ym meysydd peirianneg drydanol, electronig a nanobeirianneg mewn amrywiaeth eang o sectorau.
Byddwch yn datblygu galluoedd dadansoddi wrth gael profiad ymarferol o gyfarpar arbenigol uwch, gan feithrin sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer gweithio yn y diwydiant.
Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant (UCAS H604), yn y DU neu dramor, gan roi profiad gwerthfawr i chi yn y gweithle yn ogystal â chyflog sydd ar hyn o bryd yn £22,000 ar gyfartaledd i'n myfyrwyr. Rhoddir cymorth ac arweiniad i'ch helpu i sicrhau eich lleoliad gwaith. Rydym hefyd yn cynnig yr opsiwn i chi dreulio Blwyddyn Dramor mewn prifysgol bartner sy'n cyfoethogi'r radd, gan roi profiad diwylliannol gwerthfawr i chi a all ehangu'ch gorwelion wrth i chi geisio am swydd.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen opsiynol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen at Flwyddyn 1 eich gradd BEng.
Mae'r rhaglen hon ar gael hefyd fel MEng 4 blynedd, sef gradd israddedig uwch, gan ychwanegu blwyddyn sy'n canolbwyntio ar ymchwil at eich gradd. Mae ein rhaglen MEng yn arwain at gymhwyster meistr, yn ogystal â'ch gradd israddedig, gan roi i chi hyfforddiant gwyddonol gan arbenigwyr a llwybr at amrywiaeth o yrfaoedd arbenigol.
