Peirianneg ag Arbenigedd wedi Ohirio gyda Blwyddyn Sylfaen, BEng (Anrh)

5ed yn y DU ar gyfer Rhagolygon Gyrfa

Guardian University Guide 2026

Engineering classroom

Trosolwg o'r Cwrs

Mae dealltwriaeth ddofn ac arbenigol o beirianneg yn ehangu eich gorwelion i fyd yn llawn cyfleoedd gwahanol. Ym Mhrifysgol Abertawe, ceir digonedd o ddewis o raddau mewn peirianneg.

Gallwch ddewis canolbwyntio eich diddordeb mewn nifer o feysydd o beirianneg awyrofod, sifil a chemegol, i beirianneg drydanol, deunyddiau, mecanyddol a meddygol.

Os nad ydych yn siŵr pa ddisgyblaeth ym maes peirianneg sy'n addas i chi, bydd y flwyddyn sylfaen hon yn eich helpu i benderfynu.

Gall y rhaglen integredig Blwyddyn Sylfaen Peirianneg arwain at unrhyw radd lawn mewn peirianneg. Nid cymhwyster ynddo'i hun ydyw ond, yn hytrach, blwyddyn gyntaf cwrs gradd BEng pedair blynedd o hyd.

Wrth i chi fynd yn eich blaen drwy'r cwrs, bydd y galluoedd dadansoddol y byddwch yn eu datblygu yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddefnyddio cyfarpar o'r radd flaenaf, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth mewn diwydiant ehangach.

Pam Peirianneg ag Arbenigedd wedi Ohirio gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

  • 11eg yn y DU (Guardian Univeristy guide 2026)

  • 5ed yn y DU ar gyfer Rhagolygon Gyrfa (Guardian University Guide 2026)

  • 12eg yn y DU (Guardian University Guide 2025)

Eich Profiad Peirianneg ag Arbenigedd wedi Ohirio gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae detholiad o lwybrau gradd sydd wedi'u strwythuro'n hyblyg yn rhoi cyfle i chi astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn.

Fel arfer, caiff modiwlau ychwanegol eu cynnig yn ystod blynyddoedd diweddarach eich astudiaethau, er mwyn helpu i sicrhau bod y radd yn cyd-fynd â'ch diddordebau.

Mae amrywiaeth o gyfleusterau o'r radd flaenaf ar gael ar gyfer pob un o'n disgyblaethau, sy'n sicrhau bod yr hyn y byddwch yn ei ddysgu drwy gydol eich cwrs gradd yn ennyn eich diddordeb ac yn fodern.

Cyfleoedd Cyflogaeth Peirianneg ag Arbenigedd wedi Ohirio gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae graddedigion Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe yn cael eu rhoi ar ben y ffordd i gael amrywiaeth o gyfleoedd ysgogol. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol. 

  • Peiriannydd Dylunio Awyrennau
  • Peiriannydd Dylunio Lloerenni
  • Gwyddonydd Rocedi
  • Metelegydd
  • Gwyddonydd Datblygu Cynhyrchion
  • Peiriannydd/Gwyddonydd Clinigol
  • Peiriannydd Dylunio Prosthetigau
  • Peiriannydd Darlledu
  • Peiriannydd Rheoli ac Offeru

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

CCC-CDD

Peirianneg ag Arbenigedd wedi Ohirio gyda Blwyddyn Sylfaen