Trosolwg o'r Cwrs
O'r we fyd-eang a rhwydweithiau ffôn symudol, i chwaraewyr cerddoriaeth digidol a ffynonellau ynni adnewyddadwy, mae'r pwnc hwn yn llywio'r byd o'n cwmpas.
Mae galw mawr am raddedigion Peirianneg Electronig a Thrydanol medrus ac mae cyfleoedd iddynt weithio ym mhob cwr o'r byd.
Bydd y cwrs gradd hwn yn eich hyfforddi ar gyfer gyrfa mewn swyddi ym maes trydan, electroneg a nanobeirianneg mewn amrywiaeth o sectorau. Mae'r MEng yn radd integredig pedair blynedd o hyd. Mae'n mynd y tu hwnt i'r BEng, gan gynnig sgiliau technegol ac arweinyddiaeth uwch, lefel ddyfnach o arbenigo a llwybr uniongyrchol i achrediad proffesiynol.
Wrth i chi fynd yn eich blaen drwy'r cwrs, bydd y galluoedd dadansoddol y byddwch yn eu datblygu yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddefnyddio cyfarpar arbenigol soffistigedig, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth yn y diwydiant ehangach.