Peirianneg Fecanyddol, BEng (Anrh)

7eg yn y DU

Guardian University Guide 2025

Mechanical engineering students

Trosolwg o'r Cwrs

Mae peirianwyr mecanyddol yn trawsnewid syniadau arloesol yn ddyfeisiadau sy'n torri tir newydd. Mae'r ddisgyblaeth yn helpu i ddyfeisio, dylunio a chynhyrchu llawer o'r peiriannau a ddefnyddiwn yn feunyddiol.

Mae ein cwrs gradd Peirianneg Fecanyddol yn eich paratoi ar gyfer gyrfa sy'n llawn boddhad mewn amrywiaeth o sectorau peirianneg.

Byddwch yn datblygu galluoedd dadansoddi wrth gael profiad ymarferol o gyfarpar arbenigol uwch, gan feithrin sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer gweithio yn y diwydiant. 

Pam Peirianneg Fecanyddol yn Abertawe?

  • 14eg yn y DU (The Guardian University Guide 2026)
  • 20fed Yn U Du Peirianneg Fecanyddol (Daily Mail University Guide 2026)
  • 131 yn y byd (Peirianneg Fecanyddol, Awyrofod a Gweithgynhyrchu) (QS World University Rankings 2025)
  • 19fed yn y DU am bositifrwydd cyffredinol (NSS 2025)*
  • Mae 96% o raddedigion Peirianneg Fecanyddol yn mewn gwaith ac/neu astudio, neu'n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2025)

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi dreulio BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT (UCAS H305) yn y DU neu dramor, gan roi profiad gwerthfawr yn y gweithle yn ogystal â chyflog sydd ar hyn o bryd dros £15,000 ar gyfartaledd. Darperir cymorth ac arweiniad I’ch helpu i sicrhau lleoliad.

Rydym hefyd yn cynnig cyfle i chi ASTUDIO DRAMOR (UCAS H308) mewn prifysgol bartner sy'n cyfoethogi'r radd, gan roi profiad diwylliannol ac ieithyddol gwerthfawr a all ehangu'ch gorwelion wrth drio am swydd.

* Yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol wrth ateb cwestiwn 1 - 26 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025 , o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.

Eich Profiad Peirianneg Fecanyddol

Byddwch yn gweithio'n agos â'n cyfleusterau o'r radd flaenaf drwy gydol eich amser yn Abertawe.

Ymhlith y rhain mae labordy mecaneg dynameg, labordy hylifau a'n hystafell profi injan JetCat P120. Mae gennym hefyd unedau sydd ar flaen y gad ym maes gweithgynhyrchu digidol a roboteg.

Cyfleoedd Cyflogaeth Peirianneg Fecanyddol

Mae graddedigion Peirianneg Fecanyddol yn cael eu rhoi ar ben y ffordd i gael amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa ysgogol. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol. 

  • Peiriannydd Modurol
  • Peiriannydd Mwyngloddio
  • Technegydd Gweithdy
  • Peiriannydd Dibynadwyedd
  • Peiriannydd Straen
  • Peiriannydd Mecatroneg

Mae graddau Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Abertawe wedi'u hachredu gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) a Sefydliad y Dylunwyr Peirianneg (IED). Hefyd, mae'r radd yn gam cyntaf ar y daith tuag at statws Peiriannydd Siartredig, sy'n uchel ei barch.

Cer ar daith dywys o amgylch ein cyfleusterau

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

ABB-BCC

Peirianneg Fecanyddol

Peirianneg Fecanyddol gyda Blwyddyn Dramor

Peirianneg Fecanyddol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant