Peirianneg Fecanyddol gyda Blwyddyn Sylfaen, BEng (Anrh)

7eg yn y DU

Guardian University Guide 2025

BEng Peirianneg Fecanyddol gyda Blwyddyn Sylfaen

Trosolwg o'r Cwrs

Mae peirianwyr mecanyddol yn trawsnewid syniadau arloesol i ddyfeisiadau arloesol. Mae'r ddisgyblaeth yn helpu i ddyfeisio, dylunio a chynhyrchu llawer o'r peiriannau a ddefnyddiwn yn ddyddiol.

Mae ein gradd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa werth chweil mewn ystod o sectorau peirianneg.

Gall y rhaglen Flwyddyn Sylfaen Peirianneg integredig arwain at unrhyw radd peirianneg lawn. Nid yw'n gymhwyster ynddo'i hun, ond blwyddyn gyntaf gradd BEng pedair blynedd.

Wrth i chi symud ymlaen, bydd eich galluoedd dadansoddol datblygol yn cyfuno â phrofiad ymarferol o offer uwch, gan sefydlu sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth yn y diwydiant ehangach.

Pam Peirianneg Fecanyddol gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

  • 14eg yn y DU (The Guardian University Guide 2026) 
  • 20fed Yn U Du Peirianneg Fecanyddol (Daily Mail University Guide 2026)
  • 131 yn y byd (Peirianneg Fecanyddol, Awyrofod a Gweithgynhyrchu) (QS World University Rankings 2025)
  • 19fed yn y DU am bositifrwydd cyffredinol (NSS 2025)*
  • Mae 96% o raddedigion Peirianneg Fecanyddol yn mewn gwaith ac/neu astudio, neu'n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2025)

Mae llwybr gradd hyblyg yn golygu bod gennych chi'r cyfle i astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn.

Cynigir detholiad o fodiwlau dewisol yn y blynyddoedd astudio diweddarach, gan helpu i alinio'r radd â'ch diddordebau yn agos.

* Yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol wrth ateb cwestiwn 1 - 26 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025, o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.

Eich Profiad Peirianneg Fecanyddol gyda Blwyddyn Sylfaen

Wrth i'r holl fyfyrwyr Blwyddyn Sylfaen Peirianneg astudio'r holl fodiwlau, mae cydberthynas dda ymhlith myfyrwyr sy'n creu awyrgylch astudiaeth gyfeillgar a chefnogol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Peirianneg Fecanyddol gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae graddedigion Peirianneg Fecanyddol yn cael eu rhoi ar ben y ffordd i gael amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa ysgogol. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol. 

  • Peiriannydd Modurol
  • Peiriannydd Mwyngloddio
  • Technegydd Gweithdy
  • Peiriannydd Dibynadwyedd
  • Peiriannydd Straen
  • Peiriannydd Mecatroneg

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

CCC-CDD

Peirianneg Fecanyddol gyda Blwyddyn Sylfaen