Trosolwg o'r Cwrs
Mae peirianwyr mecanyddol yn trawsnewid syniadau arloesol yn ddyfeisiadau sy'n torri tir newydd. Mae'r ddisgyblaeth yn helpu i ddyfeisio, dylunio a chynhyrchu llawer o'r peiriannau a ddefnyddiwn yn feunyddiol.
Mae ein cwrs gradd Peirianneg Fecanyddol yn eich paratoi ar gyfer gyrfa sy'n llawn boddhad mewn amrywiaeth o sectorau peirianneg. Mae'r MEng yn radd integredig pedair blynedd o hyd. Mae'n mynd y tu hwnt i'r BEng, gan gynnig sgiliau technegol ac arweinyddiaeth uwch, lefel ddyfnach o arbenigo a llwybr uniongyrchol i achrediad proffesiynol.
Wrth i chi fynd yn eich blaen drwy'r cwrs, bydd y galluoedd dadansoddol y byddwch yn eu datblygu yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddefnyddio cyfarpar soffistigedig, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth mewn diwydiant ehangach.