Trosolwg o'r Cwrs
Mae peirianwyr sifil yn rhan anhepgor o'r gwaith o ddylunio ein hamgylchedd adeiledig. O bontydd, twneli a systemau trafnidiaeth i adeiladau, amddiffynfeydd rhag llifogydd a systemau rheoli dŵr, mae eu gweithrediad yn hanfodol i gymdeithas fodern.
Mae'r cwrs gradd hwn yn rhoi sylfaen gadarn i chi ym maes dylunio a dadansoddi strwythurau peirianneg sifil. Byddwch yn meithrin sgiliau datrys problemau cymhleth a'r gallu i fraslunio a modelu datrysiadau peirianneg ac yn dod yn gyfforddus wrth baratoi adroddiadau technegol.
Mae'r MEng yn radd integredig pedair blynedd o hyd. Mae'n mynd y tu hwnt i'r BEng, gan gynnig sgiliau technegol ac arweinyddiaeth uwch, lefel ddyfnach o arbenigo a llwybr uniongyrchol i achrediad proffesiynol.
Wrth i chi fynd yn eich blaen drwy'r cwrs, bydd y galluoedd dadansoddol y byddwch yn eu datblygu yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddefnyddio cyfarpar o'r radd flaenaf, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth mewn diwydiant peirianneg sifil.