Bioleg y Môr, BSc (Anrh)

Dyfnhewch eich dealltwriaeth o ecosystemau morol yn ystod cyfnod hollbwysig

Dyfnhewch eich dealltwriaeth o ecosystemau morol yn ystod cyfnod hollbwysig

Student snorkling in Puerto Rico

Trosolwg o'r Cwrs

O ganlyniad i faterion parhaus a hollbwysig sy'n ymwneud â’n cefnforoedd, nid yw dealltwriaeth academaidd o fywyd y cefnfor erioed wedi bod mor bwysig.

Mae'r radd Bioleg y Môr hon yn hynod ymarferol ac yn seiliedig ar waith maes. Pan gaiff hyn ei gyfuno â'n lleoliad unigryw, dyma gyfle delfrydol i gael mynediad at amrywiaeth o gynefinoedd astudio i'w harchwilio yn ystod eich gradd, sy'n cynnwys glannau creigiog agored, morfeydd heli ar glogwyni serth a fflatiau llaid morydol; sydd oll ar gael ar Benrhyn Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig gyntaf y DU.

Pam Bioleg y Môr yn Abertawe?

Mae enw da gan Fioleg y Môr ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'n denu myfyrwyr o bedwar ban byd. Mae wedi'i leoli ar ein campws trawiadol ym Mharc Singleton sy'n edrych dros Fae Abertawe. Bydd yr hyn y byddwch yn ei ddysgu'n cael ei lywio gan academyddion llawn ysbrydoliaeth ac o fri rhyngwladol.

Byddwch chi'n astudio ar gwrs Bioleg y Môr blaenllaw, sydd ar hyn o bryd:

  • Yn y 6ed safle yn y DU am Agwedd Gadarnhaol Gyffredinol (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025) - wedi'i asesu dan 'Ecoleg a Bioleg Amgylcheddol'*
  • Yn yr 11eg safle yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2026)
  • Yn y 14eg safle yn y DU am Ymchwil - wedi'i asesu dan 'Gwyddorau Biolegol' (The Times and Sunday Times Good University Guide 2025)

* Yn seiliedig ar y sgôr agwedd gadarnhaol gyffredinol ar gyfer cwestiynau 1 i 26 yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025 o’i gymharu â’r prifysgolion yn y Times Good University Guide.

Eich Profiad Bioleg y Môr

  • Mae llwybr gradd hyblyg strwythuredig yn golygu eich bod yn cael cyfle i astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn, naill ai'n lleol, yn genedlaethol neu dramor.
  • Mae pob myfyriwr ail flwyddyn yn derbyn hyfforddiant yn y môr.
  • Mae ein cyfleusterau addysgu ac ymchwil o'r radd flaenaf yn cynnwys y Ganolfan Ymchwil Aquatic Gynaliadwy, Amgueddfa Sŵolegol, llong arolwg dosbarth catamaran 18 metr wedi'i chynllunio'n bersonol, a chanolfan ddelweddu unigryw sy'n arddangos gwybodaeth aml-ddimensiwn o ddata tracio anifeiliaid.
  • Mae cyrsiau maes sydd ar gael yn agos ac yn bell yn eich galluogi i weithio cynefinoedd amrywiol. Gallwch archwilio ecosystemau arfordirol morol ysblennydd Penrhyn Gŵyr ar garreg ein drws, a bywyd naturiol mewn tiroedd pell fel India, Borneo a Puerto Rico.

Cyfleoedd Cyflogaeth Bioleg y Môr

Os ydych chi'n angerddol am ein planed a'r amgylchedd ac yn ystyried gyrfa yn y dyfodol ym maes y biowyddorau, bydd gennych chi'r cyfle i ddysgu gan staff sy'n rhan o brosiectau ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang, yn ogystal â gweithio gyda nhw. Mae'r rhain yn cynnwys cadwraeth ein cefnforoedd a'u hecosystemau, datblygiad dyframaethu cynaliadwy a sut y gellir defnyddio algâu mewn ffyrdd arloesol fel ateb i'r heriau byd-eang sydd ynghlwm â newid yn yr hinsawdd.

Mae ein graddedigion mewn sefyllfa dda i gychwyn ar rolau mewn meysydd sy'n cyd-fynd ag arbenigedd Bioleg y Môr; efallai y byddwch chi'n darganfod eich bod yn ystyried gyrfa yn y dyfodol fel ymchwilydd morol, ymgynghorydd amgylcheddol, cadwraethwr, ymchwilydd ôl-raddedig, neu athro. Mae rhai o'n graddedigion diweddar  bellach yn:

  • Ecolegwyr, Swyddogion Prosiect, Swyddogion Hydrometreg a Thelemetreg, Tacsonomyddion Benthig, Swyddogion Bywyd Gwyllt ac Addysg, Ceidwaid Anifeiliaid a Thechnegwyr Cnydau.

Hefyd, mae gan ein hadran gysylltiadau cryf â sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Mamaliaid Prydain a Chanolfan Gwlyptiroedd Genedlaethol Cymru, a fydd yn ychwanegu gwerth at eich astudiaethau.

Darganfyddwch pam mae ein myfyrwyr wrth eu bodd yn astudio Bioleg Môr yn Abertawe.

Yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei ddweud am ein cwrs maes morol trofannol i Puerto Rico

Darganfyddwch pam mae ein myfyrwyr wrth eu boddau'n astudio Biowyddorau yn Abertawe.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

ABB-BBB

Bioleg y Môr

Bioleg y Môr gyda Blwyddyn Dramor

Bioleg y Môr gyda Blwyddyn mewn Ymchwil Gymhwysol

Bioleg y Môr gyda Blwyddyn mewn Diwydiant