Trosolwg o'r Cwrs
Mae dealltwriaeth academaidd ddwys o fywyd ar y Ddaear yn bwysicach nag erioed y dyddiau hyn. Mae astudio organebau byw, yn eu holl amrywiaeth gyfareddol, yn ein helpu i nodi bygythiadau dybryd a chyfleoedd mawr, o'r raddfa leiaf i'r raddfa fwyaf. Mae'r radd bioleg tair blynedd o hyd hon yn cynnig hyblygrwydd i archwilio bywyd naturiol, lle bynnag y mae eich diddordebau.
Mae cyrsiau lleol, preswyl a theithiau maes rhyngwladol yn rhoi cyfleoedd i chi weithio mewn cynefinoedd amrywiol. Gallwch chi archwilio ecosystemau morol, arfordirol anhygoel, amgylcheddau dŵr croyw a chynefinoedd daearol Penrhyn Gŵyr sydd ar ein stepen drws. Byddwch yn elwa o gyfleusterau addysgu ardderchog at ddiben astudiaethau ecolegol, ffisiolegol a moleciwlaidd, gan gynnwys cyfleusterau labordy newydd, y Ganolfan Ymchwil Dyfrol Cynaliadwy, amgueddfa sŵoleg, llong ymchwil 18 metr a ddyluniwyd i'r diben ac ystafell ddelweddu unigryw, i archwilio data cymhleth am symudiadau ac ymddygiad anifeiliaid mewn manylder uwch. Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil, a all fod yn seiliedig ar waith maes, gwaith labordy neu waith dadansoddol yn unig.