Trosolwg o'r Cwrs
Mae Sŵoleg wrth wraidd ein dealltwriaeth o'r byd naturiol. Yn Abertawe, byddi di'n cael cyfleoedd unigryw i ymroi i astudiaethau gwyddonol o anifeiliaid, gan gynnwys eu ffisioleg a'u hanatomeg, eu hecoleg a'u hymddygiad, eu hesblygiad a'u cadwraeth. Byddi di'n ennill y sgiliau i chwarae rhan bwysig mewn llawer o sectorau, o fioleg ddaearol a bioleg y môr a chadwraeth i amaethyddiaeth, meddygaeth, iechyd y cyhoedd a milfeddygaeth.
Byddi di'n cael cyfle heb ei ail i astudio anifeiliaid yn eu hamgylcheddau naturiol, o’r cynefinoedd arfordirol, dŵr croyw a daearol cyfoethog sydd ar garreg ein drws ym Mhenrhyn Gŵyr, i amgylcheddau ymhellach i ffwrdd yr ymwelwyd â nhw yn ystod cyrsiau maes preswyl rhyngwladol a lleol yn y DU. Mae ein cyfleusterau addysgu rhagorol yn cynnwys: cyfleusterau labordy newydd; y Ganolfan Ymchwil Dyfrol Gynaliadwy; amgueddfa sŵolegol; llong ymchwil 18 metr wedi'i dylunio'n arbennig; a chyfres ddelweddu unigryw i archwilio mewn manylder heb ei hail, data symudiadau ac ymddygiad anifeiliaid cymhleth.