Daearyddiaeth, BA (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
Shrimp farming, Bangladesh

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein graddau BA a BSc Daearyddiaeth tair blynedd yn dilyn yr un rhaglen.

Fodd bynnag, mae'r ddwy raglen wahanol yn cynnig teitl gradd (naill ai Baglor yn y Celfyddydau neu Faglor mewn Gwyddoniaeth) a allai apelio at fyfyrwyr sydd â mwy o ddiddordeb mewn naill ai Daearyddiaeth Ddynol neu Ffisegol.

Mae ein rhaglen BA Daearyddiaeth sydd wedi'i hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gyda Sefydliad Daearyddwyr Prydain) yn archwilio newid amgylcheddol, globaleiddio, daearyddiaeth greadigol a threfol a mudo ar yr ochr daearyddiaeth ddynol.

Ar y llaw arall, mae’r BSc Daearyddiaeth yn trafod themâu sy’n cynnwys rhewlifeg, gwyddor yr hinsawdd a'r tywydd, arsylwi ar y ddaear, defnyddio data lloeren i astudio newid amgylcheddol, fwlcanoleg a gwyddorau'r ddaear. 

Pam Daearyddiaeth yn Abertawe?

Mae Daearyddiaeth yn Abertawe'n Cynnig:

  • Llwybr gradd hyblyg y gallwch ei deilwra drwy ddewis o gymysgedd o fodiwlau daearyddiaeth ddynol a ffisegol.
  • Y cyfle i astudio dramor am flwyddyn, neu weithio ym myd diwydiant.
  • Pwyslais cryf ar waith maes. Rydym yn manteisio ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU (Tirwedd Genedlaethol Gŵyr erbyn hyn) ar garreg ein drws, a pharciau cenedlaethol Cymru cyfagos i gynnal teithiau maes lleol rheolaidd.
  • Mae cyrsiau maes yn yr ail a'r drydedd flwyddyn yn rhoi cyfle i chi wneud gwaith maes yn Ewrop a Gogledd America, yn ogystal â modiwlau maes arbenigol yn Asia, gydag opsiynau carbon isel sy'n archwilio Ynysoedd Sili.
  • Adran o fri rhyngwladol â hanes cryf o gyflogadwyedd; un o'r 250 o’r adrannau gorau yn y byd ar gyfer y Gwyddorau Amgylcheddol (Safleoedd Byd-eang QS fesul pwnc, 2025).
  • 100 uchaf yn y Byd ar gyfer Daearyddiaeth (Global Ranking of Academic Subjects 2024).

Eich Profiad Daearyddiaeth

  • Gallwch astudio modiwlau sy'n darparu sgiliau a gwybodaeth i fynd i'r afael â heriau byd-eang a all gynnwys: Monitro Newid Byd-eang o'r Gofod, Amgylcheddau'r Gorffennol a Newid yn yr Hinsawdd, Amgylcheddau Arfordirol a Rheoli Tir yn Gynaliadwy.
  • Gall myfyrwyr ddewis modiwlau, a phynciau prosiect, sy'n llywio eu cynlluniau gyrfa ac yn eu galluogi i ddatblygu arbenigedd mewn pynciau cymdeithasol ac economaidd megis: Daearyddiaeth Ddiwylliannol a Gwleidyddol, Twristiaeth, Treftadaeth a Hamdden, Dinasoedd y Byd a Daearyddiaeth Wledig a Mudo.
  • Mae ein modiwlau Cyfathrebu Gwyddonol ac Adroddiad Traethawd Hir yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy allweddol fel rheoli prosiect a galluoedd ymchwilydd annibynnol.
  • Gall myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ddewis astudio rhan o'r rhaglenni gradd hyn drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyfleoedd Cyflogaeth Daearyddiaeth

Mae ein graddedigion wedi dod yn Wyddonwyr Dalgylchoedd, Ecolegwyr, Proseswyr Data Daearyddol, Syrfewyr, Swyddogion Tai, Meteorolegwyr, Newyddiadurwyr, Cynghorwyr a Darlithwyr y Llywodraeth.

Mae ein myfyrwyr yn siarad am deithiau maes, cyfeillgarwch a mwy

Mae ein myfyrwyr yn siarad am eu profiadau a'u rhagolygon gyrfa

Modiwlau

Ar ôl cwblhau modiwlau gorfodol cynnar gan gynnwys wyneb newidiol y ddaear, newid amgylcheddol byd-eang a symudiadau byd-eang, byddwch yn gallu teilwra gweddill y radd i ddiwallu'ch anghenion chi.

Byddwch yn dewis o blith amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol, gyda'r cyfle i ddewis cymysgedd o fodiwlau daearyddiaeth dynol a daearyddiaeth ffisegol, cyn i chi fynd ati i gwblhau traethawd hir yn eich blwyddyn olaf.

Daearyddiaeth

Daearyddiaeth gyda Blwyddyn Dramor

Daearyddiaeth gyda Blwyddyn mewn Diwydiant