Daearyddiaeth Ddynol, BA (Anrh)

Archwiliwch y perthnasoedd cymhleth rhwng pobl a'r amgylchedd

Cambodian dancers

Trosolwg o'r Cwrs

Archwiliwch y perthnasoedd daearyddol rhwng pobl, cymdeithasau, diwylliannau, economïau a'r amgylchedd yn ein gradd BA tair blynedd mewn Daearyddiaeth Ddynol sy'n canolbwyntio ar y gwyddorau cymdeithasol.

Mae ein rhaglen BA Daearyddiaeth Ddynol sydd wedi'i hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gyda Sefydliad Daearyddwyr Prydain) yn archwilio meysydd sy'n gorgyffwrdd â phynciau fel cymdeithaseg, anthropoleg, economeg a gwyddor wleidyddol, wrth geisio deall y cysylltiadau rhwng pobl, lleoedd a gofodau, diwylliannau a chymdeithas.

Mae'r rhaglen radd hon yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd am astudio Daearyddiaeth ond heb astudio pynciau Daearyddiaeth Ffisegol yn fanwl. s

Pam Daearyddiaeth Ddynol yn Abertawe?

Mae Daearyddiaeth Ddynol yn Abertawe'n Cynnig:

  • Llwybr gradd hyblyg y gallwch ei deilwra drwy ddewis o gymysgedd o fodiwlau daearyddiaeth ddynol a ffisegol.
  • Y cyfle i astudio dramor am flwyddyn, neu weithio ym myd diwydiant.
  • Pwyslais cryf ar waith maes. Rydym yn manteisio ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU (Tirwedd Genedlaethol Gŵyr erbyn hyn) ar garreg ein drws, a pharciau cenedlaethol Cymru cyfagos i gynnal teithiau maes lleol rheolaidd.
  • Mae cyrsiau maes rhyngwladol yn ystod ail a thrydedd flwyddyn ein rhaglenni yn rhoi cyfle i chi wneud gwaith maes yn Ewrop a Gogledd America, yn ogystal â modiwlau maes arbenigol yn Asia.
  • Adran o fri rhyngwladol â hanes cryf o gyflogadwyedd; un o'r 250 o’r adrannau gorau yn y byd ar gyfer y Gwyddorau Amgylcheddol (Safleoedd Byd-eang QS fesul pwnc, 2025).
  • 100 uchaf yn y Byd ar gyfer Daearyddiaeth (Global Ranking of Academic Subjects 2024).
  • 5ed yn y DU (NSS 2025) *Yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol wrth ateb cwestiwn 1 - 26 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025, o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.
  • Y 20 Uchaf yn y DU (Guardian University Guide 2026)
  • 4ydd yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)

Eich Profiad Daearyddiaeth Ddynol

  • Gall myfyrwyr ddewis modiwlau a phynciau prosiect, sy'n llywio eu cynlluniau gyrfa ac yn eu galluogi i ddatblygu arbenigedd mewn pynciau cymdeithasol ac economaidd megis: Daearyddiaeth Ddiwylliannol a Gwleidyddol, Twristiaeth, Treftadaeth a Hamdden, Dinasoedd y Byd a Daearyddiaeth Wledig a Mudo.
  • Mae ein modiwlau Cyfathrebu Gwyddonol ac Adroddiad Traethawd Hir yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy allweddol i fyfyrwyr fel rheoli prosiect a galluoedd ymchwilydd annibynnol.
  • Gall myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ddewis astudio rhan o'r rhaglenni gradd hyn drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Cyfleoedd Cyflogaeth Daearyddiaeth Ddynol

Mae ein graddedigion wedi dod yn Wyddonwyr Dalgylchoedd, Ecolegwyr, Proseswyr Data Daearyddol, Syrfewyr, Swyddogion Tai, Meteorolegwyr, Newyddiadurwyr, Cynghorwyr a Darlithwyr y Llywodraeth.

Mae ein myfyrwyr yn siarad am deithiau maes, cyfeillgarwch a mwy

Mae ein myfyrwyr yn siarad am eu profiadau a'u rhagolygon gyrfa

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

ABB-BBC

Daearyddiaeth Ddynol

Daearyddiaeth Ddynol gyda Blwyddyn Dramor

Daearyddiaeth Ddynol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant