Trosolwg o'r Cwrs
Archwiliwch y prosesau daearyddol sy'n dylanwadu ar y Ddaear, a meithrin sgiliau mewn pynciau technegol a gwyddonol fel daeareg, gwyddor hinsawdd, rhewlifeg, fwlcanoleg a monitro newid amgylcheddol o loeren.
Mae ein rhaglen BA Daearyddiaeth Ffisegol, sydd wedi’i hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gyda Sefydliad Daearyddwyr Prydain), yn archwilio meysydd sy'n gorgyffwrdd â phynciau fel geoffiseg, hinsoddeg, meteoroleg a gwyddor y ddaear. Mae ein rhaglenni gradd Daearyddiaeth Ffisegol yn canolbwyntio ar ddadansoddi amgylcheddau ffisegol amrywiol yma yn y DU ac ar ein cyrsiau maes rhyngwladol, gan gynnwys amgylcheddau arfordirol, folcanig, ynysoedd a thectonig. Un o’r themâu craidd yw deall sut mae gweithredoedd dynol yn effeithio ar yr amgylchedd a heriau creu dyfodol cynaliadwy.
Bydd gennych fynediad i labordai arbenigol a chyfarpar maes i wneud gwaith prosiect, yn ogystal â'n ‘llyfrgell’ o gyfarpar maes lle gallwch fenthyca dillad gwrth-ddŵr, esgidiau ac offer awyr agored.
Mae'r rhaglen radd hon yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd am astudio daearyddiaeth ond nad ydynt am astudio pynciau Daearyddiaeth Ddynol yn fanwl. Mae myfyrwyr sydd am gynnwys Daearyddiaeth Ddynol yn cael eu hannog i ystyried y rhaglen BSc Daearyddiaeth hefyd.