Geowyddoniaeth Amgylcheddol, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
Tephra Lab

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Archwiliwch hanes daearyddol a daearegol y Ddaear ac ymchwilio i'r prosesau sydd wedi llunio'r ddaear ers miliynau o flynyddoedd. Byddwch yn astudio pynciau fel peryglon naturiol, rhewlifeg a newid amgylcheddol er mwyn datblygu dealltwriaeth o sut mae dynolryw wedi achosi newid amgylcheddol.

Byddwch yn meithrin sgiliau mewn pynciau technegol a gwyddonol megis daeareg, gwyddor yr hinsawdd, rhewlifeg, fwlcanoleg a monitro newid amgylcheddol o loeren.

Mae ein BSc mewn Geowyddoniaeth Amgylcheddol sydd wedi'i hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gyda Sefydliad Daearyddwyr Prydain) yn archwilio meysydd sy'n gorgyffwrdd â phynciau fel geoffiseg, hinsoddeg, meteoroleg a gwyddor y ddaear. Byddwch yn canolbwyntio ar ddadansoddi gwahanol amgylcheddau ffisegol yma yn y DU ac ar ein cyrsiau maes rhyngwladol, gan gynnwys amgylcheddau arfordirol, folcanig, ynysoedd a thectonig. Byddwch yn treulio wythnos yn yr Almaen yn eich trydedd flwyddyn, yn astudio amgylcheddau folcanig hynafol.

Bydd gennych fynediad i labordai arbenigol a chyfarpar maes i wneud gwaith prosiect, yn ogystal â'n 'llyfrgell' o gyfarpar maes lle gall myfyrwyr fenthyca dillad gwrth-ddŵr, esgidiau ac offer awyr agored.

Pam Geowyddoniaeth Amgylcheddol yn Abertawe?

Mae Geowyddoniaeth Amgylcheddol yn Abertawe'n cynnig:

  • Llwybr gradd hyblyg y gallwch ei deilwra drwy ddewis o gymysgedd o fodiwlau daearyddiaeth ddynol a ffisegol.
  • Y cyfle i astudio dramor am flwyddyn, neu weithio ym myd diwydiant.
  • Pwyslais cryf ar waith maes. Rydym yn manteisio ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU (Tirwedd Genedlaethol Gŵyr erbyn hyn) ar garreg ein drws, a pharciau cenedlaethol Cymru cyfagos i gynnal teithiau maes lleol rheolaidd.
  • Mae cyrsiau maes rhyngwladol yn ystod ail a thrydedd flwyddyn ein rhaglenni yn rhoi cyfle i chi wneud gwaith maes yn Ewrop a Gogledd America, yn ogystal â modiwlau maes arbenigol i Asia.
  • Adran o fri rhyngwladol â hanes cryf o gyflogadwyedd; un o'r 250 o’r adrannau gorau yn y byd ar gyfer y Gwyddorau Amgylcheddol (Safleoedd Byd-eang QS fesul pwnc, 2025).
  • 100 uchaf yn y Byd ar gyfer Daearyddiaeth (Global Ranking of Academic Subjects 2024).

Eich Profiad Geowyddoniaeth Amgylcheddol

  • Gallwch astudio modiwlau sy'n darparu sgiliau a gwybodaeth i fynd i'r afael â heriau byd-eang a all gynnwys: Monitro Newid Byd-eang o'r Gofod, Amgylcheddau'r Gorffennol a Newid yn yr Hinsawdd, Amgylcheddau Arfordirol a Rheoli Tir yn Gynaliadwy.
  • Mae ein modiwlau Cyfathrebu Gwyddonol ac Adroddiad Traethawd Hir yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy allweddol i fyfyrwyr fel rheoli prosiect a galluoedd ymchwilydd annibynnol.
  • Gall myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ddewis astudio rhan o'r rhaglenni gradd hyn drwy gyfrwng y Gymraeg

Cyfleoedd Cyflogaeth Geowyddoniaeth Amgylcheddol

Mae ein graddedigion wedi dod yn Wyddonwyr Dalgylchoedd, Ecolegwyr, Proseswyr Data Daearyddol, Syrfewyr, Swyddogion Tai, Meteorolegwyr, Newyddiadurwyr, Cynghorwyr a Darlithwyr y Llywodraeth.

Mae ein myfyrwyr yn siarad am deithiau maes, cyfeillgarwch a mwy

Mae ein myfyrwyr yn siarad am eu profiadau a'u rhagolygon gyrfa

Modiwlau

Ar ôl cwblhau modiwlau gorfodol cynnar gan gynnwys wyneb newidiol y ddaear, newid amgylcheddol byd-eang a symudiadau byd-eang, byddwch yn gallu teilwra gweddill y radd i ddiwallu'ch anghenion chi.

Byddwch yn dewis o blith amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol, cyn i chi fynd ati i gwblhau traethawd hir yn eich blwyddyn olaf.

Geowyddoniaeth Amgylcheddol

Geowyddoniaeth Amgylcheddol gyda Blwyddyn Dramor

Geowyddoniaeth Amgylcheddol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant