Yn Abertawe, byddwch yn elwa o addysg o ansawdd uchel, sy'n seiliedig ar
    ymchwil, sy'n cyfuno ystod o ddulliau addysgu effeithiol a chynhwysol,
    wedi'u teilwra'n ofalus i weddu i anghenion eich cwrs. Addysgir y rhan fwyaf
    o gyrsiau wyneb yn wyneb, ar y campws, gan roi'r cyfle i
    chi ymgysylltu'n weithredol â myfyrwyr eraill, staff academaidd, a chymuned
    ehangach y brifysgol.
    Gallwch ddisgwyl cymysgedd o
    ddarlithoedd, seminarau, gweithdai a sesiynau ymarferol -
    gan gynnwys gwaith labordy, hyfforddiant sgiliau, neu addysgu mewn stiwdio
    lle bo'n berthnasol i'ch disgyblaeth. Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio i
    annog cyfranogiad gweithredol, cydweithio, a datblygu sgiliau penodol i'r
    pwnc a sgiliau trosglwyddadwy.
    Defnyddir offer dysgu digidol hefyd i wella'ch profiad
    dysgu. Gall y rhain gynnwys:
    - 
        Darlithoedd wedi'u recordio i gefnogi astudio ac
        adolygu hyblyg.
    
- 
        Labordai rhithwir neu amgylcheddau wedi’u hefelychu, yn
        enwedig mewn gwyddoniaeth, gofal iechyd a disgyblaethau technegol.
    
- 
        Adnoddau ar-lein ar amgylchedd dysgu rhithwir y
        brifysgol (Canvas), gan gynnwys fideos, deunyddiau darllen, cwisiau a
        fforymau trafod.
    
    Mae'r dull hwn yn eich galluogi i ymdrin â chynnwys a'i adolygu yn eich
    amser eich hun wrth elwa o strwythur a chefnogaeth addysgu wyneb yn wyneb.
    Efallai bydd y cwrs hwn yn cynnig rhai modiwlau sy’n cael eu haddysgu drwy
    gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg yn rhugl.
    Am ragor o fanylion am y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael, gweler
    yr ehangydd Darpariaeth Gymraeg isod.
    
        N.B. Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol sy'n astudio gyda Fisa Llwybr
        Myfyrwyr, sylwch y bydd eich gweithgareddau wedi'u hamserlennu, ynghyd
        ag unrhyw weithgareddau goruchwylio ychwanegol (gyda staff Prifysgol
        Abertawe yn bresennol) yn digwydd ar y campws.Yn unol â phrotocol Fisâu
        a Mewnfudo'r Deyrnas Unedig, bydd y sesiynau hyn yn cael eu monitro a
        bydd data ar gael ar gais.