Trosolwg o'r Cwrs
Os nad ydych yn ennill y graddau angenrheidiol i gofrestru ar y rhaglen BSc mewn Astroffiseg, gallai'r rhaglen pedair blynedd hon, gyda Blwyddyn Sylfaen, fod yn addas i chi.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen, sy'n trafod cysyniadau craidd mewn Ffiseg a Mathemateg, yn ffordd wych o feithrin yr wybodaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol ar gyfer eich gradd Astroffiseg israddedig. Mae'r Flwyddyn Sylfaen wedi'i hintegreiddio, sy'n golygu y cewch eich addysgu yn yr un adran ar Gampws Singleton drwy gydol y pedair blynedd.
Ar ôl cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen, byddwch yn treulio tair blynedd yn astudio am eich gradd israddedig, a fydd yn eich tywys ar daith i ddatgloi dirgelion y Bydysawd!
Nod ein rhaglen Astroffiseg yw cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu i gyfoethogi eich taith academaidd a rhoi i chi'r sgiliau bydd eu hangen arnoch ar gyfer eich dyfodol. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gadarn o'r cysyniadau a'r technegau hanfodol sy'n creu’r sylfaen i ddatgloi cyfrinachau’r cosmos. Gan adeiladu ar y sylfeini hyn, cewch eich addysgu gan ymchwilwyr gweithredol ac yn archwilio’r bydysawd yn ddyfnach gan astudio pynciau fel esblygiad y sêr, deinameg alaethol, tonnau disgyrchol a chosmoleg.
Byddwch yn mynd y tu hwnt i ddarlithoedd, gan elwa o brofiad ymarferol yn defnyddio telesgopau a chanfodyddion ac yn dadansoddi data seryddol go iawn. Bydd eich prosiect blwyddyn olaf yn caniatáu i chi gynnal eich ymchwil annibynnol eich hun mewn maes astroffiseg, efallai yn defnyddio data o daith maes i arsyllfa.
Nod ein rhaglen yw creu astroffisegwyr cyflawn sy'n meddu nid yn unig ar wybodaeth a sgiliau gwyddonol hanfodol ond hefyd ar y sgiliau meddwl yn feirniadol, cyfathrebu, ac addasu i ffynnu mewn byd o archwilio a darganfod gwyddonol sy'n newid yn gyson. Mae eich Taith Astroffiseg yn Aros Amdanoch!