Astroffiseg, BSc (Anrh)

3ydd yn y DU am Foddhad â’r Addysgu

Guardian University Guide 2025

Image

Trosolwg o'r Cwrs

Ymunwch â ni ar daith i ddatgloi dirgelion y Bydysawd!

Nod ein rhaglen Astroffiseg yw cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu i gyfoethogi eich taith academaidd a rhoi'r sgiliau y mae eu hangen arnoch ar gyfer eich dyfodol.

Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gadarn o gysyniadau ffiseg a dulliau mathemategol hanfodol, sy’n ffurfio’r sylfaen y mae ei hangen i ddatgloi cyfrinachau’r bydysawd.

Gan adeiladu ar y sylfeini hyn ac wedi’ch addysgu gan ymchwilwyr cyfredol, byddwch yn archwilio’r bydysawd yn ddyfnach gan astudio pynciau fel esblygiad y sêr, deinameg galaethol, tonnau disgyrchol a chosmoleg.

Byddwch yn mynd y tu hwnt i ddarlithoedd, gan elwa o brofiad ymarferol yn defnyddio telesgopau a datgelyddion, a dadansoddi data seryddol cyfredol. Bydd eich prosiect blwyddyn olaf yn caniatáu i chi gynnal eich ymchwil annibynnol eich hun mewn maes astroffiseg, efallai yn defnyddio data o daith maes arsyllu.

Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn cael eich asesu drwy ystod eang o asesiadau amrywiol – o adroddiadau a phosteri gwyddonol i arholiadau a chyflwyniadau, sy’n eich galluogi i arddangos eich sgiliau cyfathrebu, gweithio fel tîm, ymchwilio a mwy.

Nod ein rhaglen yw creu astroffisegwyr cyflawn sydd nid yn unig yn meddu ar wybodaeth a sgiliau gwyddonol hanfodol ond hefyd yn gallu meddwl yn feirniadol, cyfathrebu, ac addasu i ffynnu mewn byd esblygiadol o ymchwiliadau a darganfyddiadau gwyddonol.

Felly ymunwch â ni ar antur gosmig - mae eich taith Astroffiseg ar ddod!

Pam Astroffiseg yn Abertawe?

Mae'r Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe yn adran uchel ei pharch sy'n denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd, oeddech chi'n gwybod:

  • 11eg yn y DU (Guardian University Guide 2025) 

  • 3ydd yn y DU am Foddhad â’r Addysgu (Guardian University Guide 2025)

  • 5ed Yn Y Du Am Yr Addysgu Ar Fy Nghwrs * (NSS 2024)*Yn seiliedig ar y sgor gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol ar draws cwestiynau 1 i 4 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024 o'n cymharu ni a phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.
  • Rydym yn un o'r 201-250 o brifysgolion gorau yn y byd (Tablau Prifysgolion y Byd QS 2025)

Cewch eich addysgu gan academyddion ysbrydoledig megis yr Athro Gianmassimo Tasinato, sy'n adnabyddus yn rhyngwladol am ei gyfraniadau ymchwil ym maes seryddiaeth a chosmoleg tonnau disgyrchol a Dr Sarah Roberts, arbenigwraig wrth ddefnyddio telesgopau roboteg at ddibenion addysg i ennyn diddordeb dysgwyr a'u hysbrydoli.

Eich Profiad Astroffiseg

  • Mae strwythur hyblyg y radd yn cynnig cyfle i astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn, naill ai’n lleol, yn genedlaethol neu dramor.
  • Gallwch ddewis ymuno â thaith maes ryngwladol i gyfleuster ymchwil seryddiaeth o fri lle byddwch chi'n casglu eich data eich hun
  • Cyfle i ddefnyddio telesgopau roboteg o safon fyd-eang o amgylch y byd, gan roi grym arsylwi ar seryddiaeth go iawn ar flaenau eich bysedd.
  • Mae ein gofod cyffredin i fyfyrwyr a staff (y Gorwel Digwyddiadau) sy'n edrych dros olygfeydd trawiadol Bae Abertawe, yn lleoliad delfrydol ar gyfer astudio'n dawel, cynnal trafodaethau anffurfiol a chiniawau.
  • Mae'r Adran Ffiseg a Chymdeithas Ffiseg Prifysgol Abertawe yn noddi digwyddiadau cymdeithasol ac academaidd yn rheolaidd fel colloquia adrannol a darlithoedd pwrpasol i ddod â myfyrwyr a staff ynghyd.
  • Mae cynrychiolwyr myfyrwyr etholedig ar gyfer pob blwyddyn ac ar gyfer cymdeithas Ffiseg Prifysgol Abertawe (PhySoc) yn sicrhau bod llais pob myfyriwr yn cael ei glywed trwy gyfarfodydd rheolaidd â phenaethiaid adran.
  • Mae ein grwpiau ymchwil byd-eang mewn Ffiseg Gronynnau a Damcaniaeth Gosmoleg, Deunyddiau Cymhwysol a'r cydweithrediad gwrthfater ALPHA gyda chysylltiadau agos â CERN, yn sicrhau bod ein haddysgu yn cael ei lywio gan yr ymchwil ddiweddaraf. Mae gan fyfyrwyr y cyfle i gwblhau interniaeth haf yn CERN ac ymgymryd â phrosiectau yn y flwyddyn olaf gydag unrhyw un o'n prif grwpiau ymchwil.

Cyfleoedd Cyflogaeth Astroffiseg

Mae ein graddedigion Ffiseg Abertawe wedi rhagori mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd, gan gynnwys rolau fel ffisegwyr ymchwil, gwyddonwyr data, peirianwyr AI a meddalwedd, rhagolygwyr galw, archwilwyr patentau, a dadansoddwyr cyllid meintiol. Mae ein rhwydwaith cyn-fyfyrwyr yn dangos eu bod yn ymwneud â llawer o sectorau, fel ymchwil llywodraeth, awyrofod, amddiffyn, ynni, niwclear, peirianneg, y sector preifat, addysg, ac archwilio'r gofod. Rydym yn ymfalchïo yn y cysylltiadau cryf maen nhw'n eu cynnal gyda'r adran ac rydym yn falch iawn o arddangos eu datblygiadau gyrfa i'n myfyrwyr presennol.

Mae canran sylweddol o'n graddedigion yn mynd ymlaen i gwblhau astudiaethau ôl-raddedig ac ymchwil gydag amrywiaeth eang o arbenigeddau.

Modiwlau

Byddwch yn dilyn llwybr gradd a fydd yn cynnwys y modiwlau gorfodol a dewisol canlynol gwerth 10 a 20 credyd.

Gofynion Mynediad

The University will consider applications from students offering a wide range of qualifications.

Typical A level Offer

AAB-BBC

Astroffiseg

Astroffiseg gyda Blwyddyn Dramor

Astroffiseg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant