Ffiseg Ddamcaniaethol, BSc (Anrh)

3ydd yn y DU am Foddhad â’r Addysgu

Guardian University Guide 2025

Horsehead nebula

Nid yw'n rhy hwyr i ddechrau astudio gyda ni ym mis Medi / Hydref.

Ewch i’n tudalennau Clirio am fwy o wybodaeth.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Ffiseg Ddamcaniaethol yn mynd i'r afael ag ystyr popeth drwy ddefnyddio iaith mathemateg i ddeall y bydysawd.

O wybodaeth gwantwm a damcaniaethau unedig mawreddog ffiseg gronynnau, i fater tywyll a chosmoleg, gall y pwnc hwn fynd â chi i unrhyw le.

Bydd ein gradd BSc tair blynedd mewn Ffiseg Ddamcaniaethol yn eich addysgu sut mae ffiseg sylfaenol a thechnegau mathemategol yn cael eu cymhwyso i ddeall datblygiadau mewn gwybodaeth gwantwm, cosmoleg, lled-ddargludyddion, laserau, ffiseg niwclear a gronynnau.

Byddwch yn archwilio'r cwestiynau mawr, fel sut dechreuodd y bydysawd, beth mae gofod ac amser wedi'u gwneud ohono, ac a yw'n bosibl ail-greu mewn labordy yr amodau a oedd yn bodoli eiliadau ar ôl y glec fawr?

Cewch gyfle i weithio ar brosiectau uwch, dan oruchwyliaeth ffisegwyr damcaniaethol a gydnabyddir yn rhyngwladol yn Abertawe.

Pam Ffiseg Ddamcaniaethol yn Abertawe?

  • 11eg yn y DU (Guardian University Guide 2025) 

  • 3ydd yn y DU am Foddhad â’r Addysgu (Guardian University Guide 2025)

  • Un o’r 201-250 o Raglenni Gorau yn y Byd (QS World University Rankings 2025)

  • Mae 97% o raddedigion Ffiseg yn mewn gwaith ac/neu astudio, neu'n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2025)

Mae Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe yn radd uchel ei pharch sy'n denu myfyrwyr o bedwar ban byd.

Bydd eich dysgu'n cael ei lywio gan y grŵp ffiseg ddamcaniaethol mawr (PPCT) sy'n cynnwys academyddion ysbrydoledig fel yr Athrawon Carlos Nuñez a Tim Hollowood, sy'n enwog yn rhyngwladol am eu cyfraniadau ymchwil i ddamcaniaeth linynnol, damcaniaeth maes cwantwm a ffiseg tyllau duon.

Mae'r grŵp Damcaniaeth Cosmoleg a Ffiseg Gronynnau yn Abertawe yn Abertawe yn un o'r grwpiau mwyaf yn y DU, gyda 12 aelod o staff academaidd yn cymryd rhan mewn ymchwil i amrywiaeth eang o bynciau mewn Ffiseg Ddamcaniaethol.

Eich Profiad Ffiseg Ddamcaniaethol

  • Byddwch yn astudio seryddiaeth, ffiseg niwclear, ffiseg lled-ddargludyddion, mecaneg gwantwm, ac yn dewis o amrywiaeth o fodiwlau ar astroffiseg, disgyrchiant a chosmoleg, prosesu gwybodaeth gwantwm a ffiseg hinsawdd.
  • Mae ein grwpiau ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang mewn Ffiseg Gronynnau a Damcaniaeth Cosmoleg, Deunyddiau Cymhwysol, a'r cydweithrediad gwrth-fater ALPHA sydd â chysylltiadau agos â CERN, yn sicrhau bod ein haddysgu ar ein
    gradd yn cael ei lywio gan yr ymchwil ddiweddaraf. Mae gan fyfyrwyr gyfle i gwblhau interniaeth haf yn CERN ac ymgymryd â phrosiectau yn y flwyddyn olaf gydag unrhyw un o'n prif grwpiau ymchwil.
  • Byddwch yn meistroli ystod eang o ddulliau datrys problemau dadansoddol a mathemategol yn y labordy ac felly'n meithrin amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eich rhoi mewn sefyllfa hynod ddymunol yn y farchnad gyflogaeth.
  • Mae cynrychiolwyr myfyrwyr etholedig ar gyfer pob blwyddyn ac ar gyfer Cymdeithas Ffiseg Prifysgol Abertawe (PhySoc)
    yn sicrhau bod llais pob myfyriwr yn cael ei glywed drwy gyfarfodydd rheolaidd â Phenaethiaid Adrannau.
  • Mae'r adran Ffiseg a Chymdeithas Ffiseg Prifysgol Abertawe'n noddi digwyddiadau cymdeithasol a digwyddiadau academaidd rheolaidd megis cynulliadau adrannol a darlithoedd nodedig i ddod â myfyrwyr a staff at ei gilydd.
  • Mae ein mannau cyffredin i myfyrwyr a staff (the Event Horizon) sy'n meddu ar olygfeydd trawiadol o
    Fae Abertawe, yn lle delfrydol i astudio'n dawel, cynnal trafodaethau anffurfiol a chael cinio.

Cyfleoedd Cyflogaeth Ffiseg Ddamcaniaethol

Mae ein graddedigion Ffiseg Abertawe wedi rhagori mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd, gan gynnwys rolau fel ffisegwyr ymchwil, gwyddonwyr data, peirianwyr AI a meddalwedd, rhagolygwyr galw, archwilwyr patentau, a dadansoddwyr cyllid meintiol. Mae ein rhwydwaith cyn-fyfyrwyr yn dangos eu bod yn ymwneud â llawer o sectorau, fel ymchwil llywodraeth, awyrofod, amddiffyn, ynni, niwclear, peirianneg, y sector preifat, addysg, ac archwilio'r gofod. Rydym yn ymfalchïo yn y cysylltiadau cryf maen nhw'n eu cynnal gyda'r adran ac rydym yn falch iawn o arddangos eu datblygiadau gyrfa i'n myfyrwyr presennol.

Mae canran sylweddol o'n graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn astudiaethau ac ymchwil ôl-raddedig gydag amrywiaeth eang o arbenigeddau.

5 rheswm dros astudio Ffiseg yn Abertawe

Ewch ar daith o amgylch ein cyfleusterau gyda Saba

Modiwlau

Byddwch yn dilyn llwybr gradd sy'n cynnwys y modiwlau 10 credyd gorfodol a dewisol canlynol, ac eithrio modiwl prosiect 20 credyd yn eich blwyddyn olaf.

Ffiseg Ddamcaniaethol

Ffiseg Ddamcaniaethol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant