Trosolwg o'r Cwrs
Mae ffiseg yn cyfuno rhesymu dadansoddol a datrys problemau gan ddefnyddio iaith mathemateg i ddeall y bydysawd. Os oes gennych awydd dwfn i ddeall sut mae popeth yn gweithio o fyd cwantwm isatomig i ehangder y bydysawd, ac mae gennych y cymhelliant i fod yn ffisegwr proffesiynol, mae'r cwrs gradd MPhys Ffiseg pedair blynedd yn ddelfrydol i chi.
Byddwch yn dysgu cysyniadau ffisegol a thechnegau mathemategol ac yn eu cymhwyso er mwyn deall datblygiadau mewn gwybodaeth gwantwm, cosmoleg, lled-ddargludyddion, laserau, a ffiseg niwclear a gronynnau.
Yn y flwyddyn olaf o'r rhaglen byddwch yn astudio modiwlau uwch megis modiwlau am ddysgu peirianyddol, gwybodaeth gwantwm, a theori maes cwantwm yn ogystal â ffiseg tyllau duon.
Byddwch yn gweithio ar brosiect uwch MPhys sy'n flwyddyn o hyd ac yn dysgu sut i gynnal ymchwil sydd ar flaen y gad yn y meysydd hyn, dan oruchwyliaeth academyddion a gydnabyddir yn rhyngwladol.