- Disgrifiad
Datblygwyd y rhaglen radd Gwyddor Gofal Iechyd ran-amser mewn Peirianneg Adferiad i fynd i'r afael ag angen hyfforddiant cenedlaethol ar gyfer gweithwyr presennol mewn adrannau Peirianneg Glinigol, mewn Byrddau Iechyd yng Nghymru. Mae staff sydd wedi cwblhau hyfforddiant lefel 4 (h.y. Prentisiaeth mewn Gwyddor Gofal Iechyd/Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Clywedeg Sylfaenol), ond sydd heb lawer o opsiynau i ddatblygu sgiliau heb adael cyflogaeth i astudio'n amser llawn, bellach yn cael llwybr a fyddai'n eu gwneud yn gymwys i gofrestru fel Clywedegwr (fel Ymarferydd Clywedeg Sylfaenol, drwy'r Academi Gwyddor Gofal Iechyd, yn amodol ar achrediad rhaglen). Bydd cydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol hefyd ar gael ar gyfer gweithwyr y Bwrdd Iechyd nad oes ganddynt y cymwysterau lefel 4 ond gallant ddangos gwybodaeth gyfatebol a sgiliau clinigol drwy bortffolio o dystiolaeth.
Caiff myfyrwyr eu rhyddhau o'u cyflogaeth gyda'r GIG am ddiwrnod a hanner yr wythnos i astudio'r cwrs, gan dreulio un diwrnod yr wythnos gyda'r Brifysgol a hanner diwrnod ychwanegol fel amser astudio Caiff y rhaglen ei chyflwyno o bell yn bennaf, gyda phwyslais ar hyfforddiant ymarferol pan fydd y myfyrwyr ar y campws. Ariennir y rhaglen yn llawn gan y GIG a bydd yn cymryd tair blynedd i'w chwblhau.
- Pynciau sy'n Debygol o Gael eu Trafod
Dylunio, adeiladu a phrofi technolegau cynorthwyol, gan gynnwys cadeiriau olwyn, breichiau a choesau artiffisial, cynorthwyon robotig a seddau arbenigol. Defnyddio systemau mapio gwasgedd, goniomedrau, mesuryddion goleddf, rheolyddion a rhaglenwyr ffon reoli, dyfeisiau wedi'u gwneud at y diben, yn ogystal â dysgu am eu pwysigrwydd o ran chwyldroi gofal ac annibyniaeth cleifion.
- Dyddiad Cychwyn Bwriededig
- Medi 2024
Cwblhewch y ffurflen isod fel y gallwn yrru mwy o wybodaeth atoch am y rhaglen radd hon pan ddaw ar gael e.e. modiwlau, ffioedd, dyddiad dechrau ayyb.