Trosolwg o'r Cwrs
Gelli di deilwra dy astudiaethau ar draws llenyddiaeth a diwylliant, treftadaeth a hanes, y cyfryngau ac ieithoedd modern i archwilio dylanwad y dyniaethau ar y byd rydym ni'n byw ynddo. Mae ein gradd BA Anrhydedd Cyfun yn rhaglen radd heriol, wobrwyol a hyblyg a fydd yn dy alluogi di i ganolbwyntio ar dy ddiddordebau unigol, dy gryfderau personol a'th nodau gyrfa yn y tymor hir.
Bydd gennyt un modiwl gorfodol bob blwyddyn a fydd yn gweithredu fel sylfaen iti archwilio gwahanol ddisgyblaethau'r dyniaethau. Ategir y modiwl gorfodol gan dy ddewis o ystod eang o fodiwlau dewisol, gan ymdrin â Diwylliant (Dewislen A), Y Gorffennol a'r Presennol (Dewislen B) ac Ieithoedd Modern (Dewislen C).
Dewislen A - Diwylliant
- Astudiaethau Americanaidd
- Iaith Saesneg, Ieithyddiaeth Gymhwysol, Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL)
- Llenyddiaeth Saesneg
- Ysgrifennu Creadigol
- Cymraeg (Diwylliant)
- Ffilm a Diwylliant Gweledol
- Y Cyfryngau
- Ieithoedd Modern (Diwylliant)
Dewislen B - Y Gorffennol a'r Presennol
- Astudiaethau Americanaidd
- Hanes yr Henfyd
- Astudiaethau Clasurol (gan gynnwys opsiynau iaith Groeg a Lladin)
- Eifftoleg
- Astudiaethau Canoloesol
- Hanes
Dewislen C - Ieithoedd
- Cymraeg (Iaith)
- Ffrangeg (Iaith) **
- Sbaeneg (Iaith) **
** mae modiwlau iaith opsiynol ar gael i'w hastudio ar lefel dechreuwyr ac ar lefel uwch.
Bydd hefyd yn bosib astudio rhai modiwlau ar draws meysydd pwnc Cymraeg, Y Cyfryngau ac Ieithoedd Modern drwy gyfrwng y Gymraeg a gallai amrywiaeth o fwrsariaethau iaith Gymraeg fod ar gael.
Pam Astudio Anrhydedd Cyfun yn Abertawe?
Mae'r rhaglen ryngddisgyblaethol hon yr un mor unigryw â thi! Os oes gennyt ti ddiddordeb yn y Dyniaethau, bydd yn dy alluogi di i greu dy raglen radd bersonol dy hun, drwy gyfuniad eang o fodiwlau a meysydd pwnc.
Y canlyniad yw cymysgedd o wybodaeth, gallu a phrofiad sy'n unigryw i bob myfyriwr.
Ar hyd y ffordd, bydd gennyt ti'r cyfle i ymgolli mewn disgyblaethau amrywiol ac archwilio dylanwadau gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac ideolegol ar gymdeithasau'r gorffennol a'r presennol. At hynny, drwy ddewis modiwlau ar draws y celfyddydau a'r dyniaethau, byddi di'n gallu addasu ac ymateb yn hyblyg i ystod o amgylchiadau: gyda llygad craff am fanylion a gallu datblygedig i feddwl yn feirniadol, byddi di'n barod i weld y darlun ehangach - sgìl y mae galw mawr amdani ymhlith darpar gyflogwyr.
Lleolir y rhaglen hon yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol yn Abertawe sy'n gartref i addysgu o'r radd flaenaf:
- Mae Astudiaethau Americanaidd yn 3ydd yn y DU ar gyfer Prosbectws Graddedigion (Times Good University Guide 2025)
- Mae Saesneg yn yr 20 uchaf yn y DU am Foddhad Addysgu (Guardian University Guide 2025)
- Mae'r cyfryngau yn y 10 uchaf yn y DU am Ansawdd Addysgu (Times Good University Guide 2025)
- Mae Ieithoedd Modern yn y 5ed safle yn y DU (Guardian University Guide 2025)
Lleolir y cwrs hwn ar Gampws Singleton, sy'n edrych dros Fae Abertawe ac wedi'i amgylchynu gan erwau o barcdir. Byddi di hefyd yn agos i ddinas Abertawe - sef dinas fywiog, amlddiwylliannol, ddiogel a fforddiadwy. Mae ystod eang o opsiynau llety i fyfyrwyr sydd am fyw naill ai ar y campws neu oddi arno.
Byddi di'n elwa o gymuned academaidd a myfyrwyr gefnogol a chynhwysol.
Y tu allan i'th astudiaethau, mae llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn grwpiau chwaraeon a chymdeithasau gwahanol. Mae'r rhain yn cynnwys Cymdeithas yr Henfyd, y Gymdeithas Astudiaethau Americanaidd, y Gymdeithas Ysgrifennu Creadigol, y Gymdeithas Hanes, Cymdeithas y Cyfryngau a chaffis iaith wythnosol.
Dy Brofiad Anrhydedd Cyfun
Bydd y rhaglen radd gyffrous ac amrywiol hon yn caniatáu i ti brofi ystod o bynciau, themâu a thestunau, gan roi i ti ddealltwriaeth eang o'r byd. Cei di dy addysgu gan amrywiaeth o ddarlithwyr, seminarau a gweithdai a byddi di hefyd yn elwa o siaradwyr gwadd, ymweliadau astudio a chyfleoedd am leoliadau gwaith.
Bob blwyddyn byddi di'n dilyn un modiwl gorfodol a fydd yn gweithredu fel angor rhwng dy ddealltwriaeth o'r celfyddydau a'r dyniaethau. Ym Mlwyddyn Un, mae ein modiwl cyflwyniadol, 'Hanfodion y Dyniaethau', yn cynnwys ymweliadau â safleoedd diwylliannol yn Abertawe ac ymhellach i ffwrdd. Ym Mlwyddyn Dau byddi di'n cwblhau Prosiect Amlddisgyblaethol i ddatblygu dy sgiliau ymchwil a chyflwyno. Yn dy flwyddyn olaf, byddi di'n llunio Traethawd Estynedig neu Brosiect yn seiliedig ar dy ddiddordebau unigol.
Mae'r rhaglen radd hon ar gael fel rhaglen 3 blynedd.
Fel arall, gelli di ychwanegu blwyddyn at dy astudiaethau drwy ymgymryd â Blwyddyn Dramor neu Flwyddyn ym myd Diwydiant. Bydd yr opsiynau ychwanegol hyn yn dy alluogi di i wella dy brofiad fel myfyriwr ymhellach drwy gynnig mewnweliadau diwylliannol unigryw i ti ynghyd â chyfleoedd sy'n seiliedig ar sgiliau.
Ar y campws cei di dy gefnogi drwy gydol dy astudiaethau gyda mynediad at ein hadnoddau a'n cyfleusterau o'r radd flaenaf. Mae'r rhain yn cynnwys ystafelloedd llyfrgell a chyfrifiaduron dynodedig, casgliadau Archif Richard Burton, ein hamgueddfa unigryw ar y campws, y Ganolfan Eifftaidd, Canolfan Celfyddydau Taliesin ac ardaloedd diwylliannol, stiwdios ffilmio a golygu â'r holl gyfarpar a labordai cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.
Cyfleoedd Cyflogaeth Anrhydedd Cyfun
Mae'r rhaglen hon yn cynnig ystod eang o opsiynau gyrfa sy'n dy alluogi di i ddilyn dy angerdd a llywio dy ddyfodol.
Bydd gan fyfyrwyr sy'n graddio gyda gradd Anrhydedd Cyfun set o sgiliau amlddisgyblaethol sy’n cynnwys sgiliau ymchwil, trefnu a meddwl yn agored rhagorol, yn ogystal â hyder wrth gyfleu gwybodaeth o amrywiaeth eang o bynciau a ffynonellau. Rydym yn disgwyl i’n graddedigion fod yn ystwyth, yn feddylwyr dadansoddol, yn fedrus wrth ymgymryd ag ymchwil ac i feddu ar set o sgiliau cadarn i ddatrys problemau, gan gynnwys y gallu i wneud penderfyniadau gwybodus. Bydd y rhaglen yn cynnwys amryw fathau o asesu ac anogir myfyrwyr i ddatblygu sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu drwy seminarau, yn ogystal â sgiliau rheoli prosiectau ac ymchwil annibynnol fel rhan o'r modiwl traethawd hir/prosiect. Bydd y gallu eang hwn, ar y cyd ag ystwythder deallusol yn sicrhau y gall ein myfyrwyr gystadlu'n llwyddiannus yn y farchnad waith os ydynt am barhau â/neu ymgymryd â gyrfa ym maes:
- Astudiaethau pellach (Ôl-raddedig a Addysgir), ymchwil a byd academaidd, gan gynnwys unrhyw raglenni sy'n berthnasol i'r dyniaethau.
- Hyfforddiant proffesiynol pellach, a fydd yn dibynnu ar eu gallu i feddwl yn agored, bod yn hyblyg a bod ag ystwythder deallusol a sgiliau cyfathrebu a meddwl yn feirniadol.
- Sefydliadau rhyngwladol a rhanbarthol, gan gynnwys ysgolion, colegau, prifysgolion, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, canolfannau ymchwil, cyrff anllywodraethol ac elusennau.
- Y sector cyhoeddus, er enghraifft, rolau mewn llywodraeth, cynghorau, mentrau cymdeithasol, cynghorau ymchwil.
- Y sector preifat, er enghraifft, swyddi ym meysydd ymarfer cyfreithiol, marchnata, recriwtio, hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus, cyhoeddi, adnoddau dynol, cyfathrebu, rheoli prosiectau, newyddiaduriaeth, golygu, ysgrifennu copi.
Hefyd bydd gennyt ti fynediad at Academi Cyflogadwyedd Abertawe sy'n darparu cymorth cyflogadwyedd cynhwysfawr trwy gydol dy amser yn y Brifysgol a'r tu hwnt.