Trosolwg o'r Cwrs
Bydd deall yr Unol Daleithiau, ei hanes, ei llenyddiaeth, ei gwleidyddiaeth a'i diwylliant, yn eich helpu i ddeall y grymoedd byd-eang sy'n llywio'r byd heddiw.
Mae Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe'n cynnig archwiliad manwl o'r wlad fwyaf dylanwadol yn yr oes fodern, o'i gwreiddiau trefedigaethol i heriau cyfoes. Mae'r radd ddeinamig hon yn mynd i'r afael â materion byd-eang dybryd megis hawliau sifil, cyfiawnder ar sail hil, a chynnydd y dde newydd.
Mae'r rhaglen hon, ynghyd â Blwyddyn Sylfaen, yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych chi’n dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer.
Ar ôl cwblhau eich blwyddyn sylfaen, bydd gennych yr hyblygrwydd i lywio'r radd hon i gyd-fynd â’ch diddordebau, boed ym maes diwylliant poblogaidd America, actifiaeth wleidyddol, y cyfryngau, ymfudo neu bolisi tramor. Gallwch hefyd dreulio semester neu flwyddyn academaidd lawn yn astudio yn yr Unol Daleithiau neu yng Nghanada, gan ennill profiad go iawn o gymdeithas Gogledd America.