Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth, BA (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
students speaking together

Trosolwg o'r Cwrs

Archwiliwch y syniadau sy'n llywio ein byd gyda BA mewn Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth. Mae'r radd ddeinamig hon yn cyfuno astudio'r Unol Daleithiau, ei diwylliant, ei hanes, ei llenyddiaeth a'i gwleidyddiaeth - â gwleidyddiaeth Prydain ac Ewrop, polisi cyhoeddus, damcaniaeth wleidyddol, ac athroniaeth. Byddwch yn astudio heriau byd-eang dybryd fel cyfiawnder ar sail hil, democratiaeth, globaleiddio, gwrthdaro, a chynaliadwyedd, gan feithrin y gallu i ddeall a dylanwadu ar y byd o'ch cwmpas.

O'r Chwyldro Americanaidd i ddiwylliant pop cyfoes yr Unol Daleithiau, ac o syniadaeth wleidyddol glasurol i ddadleuon modern am ryfel, heddwch a diogelwch, bydd gennych yr hyblygrwydd i deilwra eich gradd i'ch diddordebau chi. Mae gennych hefyd gyfle i astudio am flwyddyn neu semester yn yr Unol Daleithiau, lle byddwch yn darganfod y pwnc yn uniongyrchol.

Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i ddatgloi sbectrwm eang o gyfleoedd gyrfa drwy eich galluogi i feithrin sgiliau trosglwyddadwy fel meddwl yn feirniadol, cyfathrebu perswadiol, datrys problemau, a chreadigrwydd, oll yn sgiliau y mae cyflogwyr ar draws diwydiannau yn chwilio amdanynt.

Dyfarniadau a Safleoedd

* Wedi'i asesu o dan Astudiaethau Americanaidd ac Awstralasia. Yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol fesul pob thema yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026 o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.
** allan o 27 sefydliad sy'n cynnig y pwnc
*** Ar gyfer canran y graddedigion mewn cyflogaeth barhaus, astudiaeth bellach, neu'r ddau, flwyddyn ar ôl graddio.
**** Wedi’i asesu o dan Gwleidyddiaeth, yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol fesul pob thema yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026 o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.
***** Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
****** Gwleidyddiaeth
******* allan o 27 sefydliad sy'n cynnig y pwnc
******** allan o 27 sefydliad sy'n cynnig y pwnc
********* Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
********** allan o 27 sefydliad sy'n cynnig y pwnc

Pam Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth yn Abertawe?

Addysgir ein gradd Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth ar Gampws Parc Singleton, sy'n gampws hardd mewn parcdir â golygfeydd dros Fae Abertawe, ac ar ymyl Penrhyn Gŵyr. Mae'n radd uchel ei pharch ymysg cyflogwyr. Mae'n cynnwys yr opsiwn i astudio yn yr Unol Daleithiau am semester neu flwyddyn, gan wella eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa ymhellach.

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Mae gofynion mynediad yna i roi arweiniad i chi, nid i fod yn rhwystr, a bydd ein cynnig wedi cael ei deilwra ar eich cyfer chi a beth rydym yn meddwl y medrwch chi ei gyflawni.

Rydym yn gwybod bod pethau'n gallu newid wrth i chi fynd drwy'r siwrnai. Gallwch siarad â ni am eich cynnig ar unrhyw gyfnod a byddwn yn gwneud yn siŵr ei fod yn gynnig y medrwch chi ei gyflawni.

Eich Profiad Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth

Rydym yn cynnig cynnwys cwrs amrywiol a hyblyg, felly gallwch lunio'ch gradd mewn Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth i fodloni'ch diddordebau chi.

Mae pynciau'r radd yn cynnwys ffilm Americanaidd, cerddoriaeth, hil, rhywedd, mudo a threfoli, hanes cymdeithasol, economaidd a milwrol, terfysgaeth, neu hawliau sifil a phrotest wleidyddol; gwrthdaro a heddwch, democratiaeth, gwleidyddiaeth, athroniaeth, cysylltiadau rhyngwladol, diogelwch rhyngwladol, polisi cyhoeddus neu'r economi wleidyddol.

Mae ein haddysgu yn cael ei lywio gan ein hymchwil ryngddisgyblaethol sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang mewn ystod eang o feysydd pwnc, o hawliau sifil, polisi tramor yr Unol Daleithiau, a'r Rhyfel Oer i Ryfel Cartref America, ffuglen gyfoes yr Unol Daleithiau, a Dadeni Harlem.

Mae gan bob un o'n myfyrwyr opsiwn i astudio dramor. Mae ein rhaglenni 4 blynedd yn cynnig blwyddyn lawn dramor ac rydym hefyd yn cynnig semester dramor ar gyfer graddau 3 blynedd yn un o'n prifysgolion partner yn yr Unol Daleithiau.  Mae'r semester dramor yn rhan o raglen gyfnewid, felly byddwch yn talu ffïoedd dysgu'r Deyrnas Unedig ac yn gyfrifol am y costau llety a byw ar gyfer y semester yn y sefydliad partner.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae graddedigion Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth yn adnabyddus am eu gallu i addasu, eu creadigrwydd a'u safbwynt byd-eang. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi'r gallu i gysylltu syniadau ar draws disgyblaethau a'u cyfleu'n effeithiol. Byddwch yn gadael Abertawe â sgiliau mewn:

  • Dadansoddiad beirniadol a datrys problemau mewn modd creadigol
  • Gwaith tîm ac arweinyddiaeth
  • Cyfathrebu uwch ar lafar ac yn ysgrifenedig

Mae ein graddedigion yn dilyn gyrfaoedd mewn amrywiaeth eang o sectorau gan gynnwys:

  • Addysg a'r byd academaidd
  • Marchnata a chyfathrebu
  • Llywodraeth a pholisi cyhoeddus
  • Ymchwil a melinau trafod
  • Rheoli digwyddiadau a diwylliannol

Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth, BA (Anrh)

Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth gyda Blwyddyn Dramor, BA (Anrh)