Astudiaethau Clasurol, BA (Anrh)

Datblygu eich diddordeb a'ch brwdfrydedd am yr henfyd a diwylliant hynafol

Swansea University students at Messene Odeon

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Astudiaethau Clasurol yn cynnig cyfle i chi astudio llenyddiaeth, ynghyd a diwylliant, ac opsiwn i astudio ieithoedd yr henfyd Groegaidd a Rhufeinig.

Bydd astudio'r radd BA hon yn caniatáu i chi ddarllen pob math o destunau wedi'u cyfieithu o ardal Môr y Canoldir hynafol, wrth ddatblygu dealltwriaeth ddofn o ddiwylliant Groeg a Rhufain o’r cyfnod hynafol hyd at gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig ac wedi hynny.

Byddwch yn archwilio straeon a mytholeg, hanes a diwylliant, meddyliau a chredoau'r Groegiaid a'r Rhufeiniaid drwy astudio testunau a all fod yn gyfarwydd, megis epigau a thrasiedïau, a'r testunau llai adnabyddus, megis cerddi cariad a nofelau hynafol.

Bydd y rhaglen yn cynnwys yr opsiwn i astudio Groeg a/neu Ladin hynafol, er nad yw’r naill na’r llall yn orfodol os nad yw hyn yn cyd-fynd â'ch diddordebau neu eich uchelgeisiau.

Yn ogystal â modiwlau llenyddiaeth Roegaidd a Rhufeinig, ceir hefyd opsiynau, wedi’u haddysgu’n bennaf, i astudio Hanes yr Henfyd, Eifftoleg ac Athroniaeth. Mae Astudiaethau Clasurol yn arloesol o ran yr asesiadau, y lleoliad addysgu a'r modiwlau prosiect creadigol. Bydd y sgiliau dadansoddol a rhyngbersonol y byddwch yn eu meithrin yn ystod eich gradd yn agor y drws i amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa cyffrous mewn ystod eang o broffesiynau.

Pam Astudiaethau Clasurol yn Abertawe?

Rydym ar Gampws Parc Singleton, lleoliad trawiadol sy'n edrych dros Fae Abertawe ar ymyl Penrhyn Gŵyr.

Byddwch yn ymuno â rhaglen y Clasuron flaenllaw yn Abertawe, sydd ar hyn o bryd:

  • Yn Yr 2il safle yn y DU am Ansawdd Addysgu (Times Good University Guide 2026)
  • Yn y 3ydd safle yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)
  • Yn y 5ed safle yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2026)
  • Yn yr 8fed safle yn y DU am Foddhad â’r Addysgu (Guardian University Guide 2026),  mae)
  • Yn y 9fed safle yn y DU am Ragolygon Graddedigion (Complete University Guide 2026)

Eich Profiad Astudiaethau Clasurol

Mae'r radd hon yn rhoi cyfle i chi ymgymryd ag ymchwiliad cyfoethog a manwl i hanesion cymhleth yr henfyd Groegaidd a Rhufeinig, drwy astudio'r llenyddiaeth, yr hanes, yr athroniaeth, y gelf a’r arwyddocâd diwylliannol. Gallwch ymdrochi yn yr henfyd, ac archwilio sut roedd cymdeithasau Groegaidd a Rhufeinig yn croestorri â diwylliannau cyfagos, gan fynd i'r afael â materion hunaniaeth, grym, a chyfathrebu, mewn cyd-destunau hynafol ac ystyried sut maent wedi cael eu dehongli dros amser.

Mae'r rhaglen yn herio credoau presennol, gan eich gwahodd chi i fynegi eich safbwyntiau eich hun. Mae'r cyfuniad o fodiwlau gorfodol a dewisol 20 credyd yn eich galluogi i deilwra eich dysgu eich hun, ac i benderfynu beth i ganolbwyntio arno drwy eich dewis o fodiwlau, gyda themâu’n cynnwys llenyddiaeth glasurol, hanes yr henfyd, Eifftoleg, athroniaeth, celf glasurol, ac ieithoedd hynafol.

Bydd eich astudiaethau'n arwain at brosiect ymchwil estynedig gwerth 40 o gredydau, sy'n rhoi'r cyfle i chi archwilio pwnc perthnasol sydd o ddiddordeb personol yn fanwl.

Rydym yn gymuned glos sy'n mwynhau archwilio'r byd hynafol y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Mae ein Cymdeithas yr Henfyd a gynhelir gan fyfyrwyr yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol. Cewch eich annog i gymryd rhan yn ein grwpiau ymchwil sefydledig, ac rydym yn croesawu siaradwyr gwadd arbenigol yn gyson.

Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfleoedd i gwblhau Semester neu Flwyddyn Dramor, mewn lleoliadau megis UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong, neu Singapore, gan gyfoethogi eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan roi i chi brofiad gwerthfawr o'r gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl, sy’n cynnig cyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Er mai chi fydd yn gyfrifol am sicrhau lleoliad gwaith, rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau sy'n darparu ystod o gyfleoedd lleoliad gwaith. Byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol eich taith ymgeisio â chyngor, arweiniad ac adnoddau ychwanegol. Os na allwch sicrhau lleoliad gwaith erbyn diwedd ail flwyddyn eich astudiaethau, byddwch yn trosglwyddo i'r rhaglen radd gyfatebol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Astudiaethau Clasurol

Drwy gwblhau'r BA Astudiaethau Clasurol, bydd gennych chi'r cyfle i feithrin sgiliau cyfathrebu ardderchog, gan ddysgu sut i gyflwyno eich syniadau mewn amrywiaeth o fformatau.

Rydym yn disgwyl i'n graddedigion fod yn feirniadol ystwyth, yn feddylwyr dadansoddol, yn fedrus mewn ymchwil a meddu ar sgiliau datrys problemau cryf, gan gynnwys y gallu i wneud penderfyniadau gwybodus.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys mathau amrywiol o asesu, a chewch eich annog i ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm a chyfathrebu drwy seminarau, yn ogystal â sgiliau rheoli prosiectau ac ymchwil annibynnol fel rhan o'r traethawd hir. Bydd y sgiliau hyn yn sicrhau y gallwch gystadlu'n llwyddiannus yn y farchnad swyddi.

Ein gweledigaeth yw creu graddedigion sy'n deall yr henfyd, ond sydd hefyd yn gallu cymhwyso ei wersi i heriau cyfoes â thegwch, craffter ac uniondeb, a sicrhau bod gennych chi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyblygrwydd deallusol sy’n ofynnol yn yr 21ain ganrif.

Mae gennym gysylltiadau agos â'r sector treftadaeth, a gallwch wirfoddoli mewn nifer o amgueddfeydd lleol, gan gynnwys ein Canolfan Eifftaidd, sy'n gartref i dros 5,000 o arteffactau go iawn o'r Aifft ar Gampws Singleton.

Mae gennym hefyd gysylltiadau agos ag ysgolion lleol, yn rhannol drwy Hwb Clasuron Cymru, yn ogystal â'r modiwl lleoliad ysgol, lle gallwch chi gael profiad gwerthfawr o’r ystafell ddosbarth drwy addysgu myfyrwyr am yr henfyd, os ydych chi'n ystyried gyrfa addysgu.

Mae ein graddedigion Astudiaethau Clasurol yn gweithio mewn amrywiaeth o sectorau gan gynnwys:

  • Treftadaeth a Thwristiaeth
  • Addysgu ac Addysg
  • Y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus
  • Marchnata
  • Busnes a Rheoli
  • Gwleidyddiaeth a'r Gwasanaeth Sifil

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

ABB-BBC

Astudiaethau Clasurol

Astudiaethau clasurol gyda Blwyddyn Dramor

Astudiaethau Clasurol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant