Trosolwg o'r Cwrs
Mae Hanes yr Henfyd yn archwilio cymdeithasau a diwylliannau'r Groegiaid a'r Rhufeiniaid, gan olrhain sut y gwnaethant ddatblygu yn ystod cyfnod o ymhell dros fil o flynyddoedd. Gall cymdeithasau a digwyddiadau'r byd Groeg-Rufeinig ymddangos yn bell ond maent yn parhau i fod yn ddylanwadol, hyd yn oed heddiw, ac mae ganddynt etifeddiaeth gymhleth.
Bydd y radd hon yn eich cyflwyno i'r damcaniaethau a'r methodolegau a fydd yn eich helpu i ddeall yr amrywiaeth o brofiadau byw a ddeilliodd o'r hen fyd. Byddwch yn cael eich cefnogi wrth i chi ddatblygu sgiliau newydd gam wrth gam, gan adeiladu ar ymarfer yn y dosbarth ac adborth adeiladol, i allu ymchwilio, dadansoddi a chyflwyno tystiolaeth o'r hen fyd yn effeithiol.
Byddwn yn eich cyflwyno i wahanol ddulliau hanesyddol; meddwl am fywydau a bywoliaethau hynafol, ffyrdd y bu pobl yn dylanwadu ar eu hamgylchedd, a sut maent yn datblygu syniadau i esbonio'r byd o'u cwmpas.
Gallwch hefyd ddysgu am ryngweithiadau cymdeithasau hynafol â'u cymdogion o amgylch Môr y Canoldir a chenhedloedd ymhellach i ffwrdd, o Brydain i Bersia ac India. Gan ein bod hefyd yn cynnig Eifftoleg, cewch gyfle unigryw i ddysgu mwy am yr hen Aifft a Sudan.
Cewch gyfleoedd i ymdrin â ffynonellau archeolegol fel celf hynafol, olion deunydd a thirweddau, a byddwn yn gweithio ar y cyd i ddehongli testunau hynafol, o weithiau llenyddol i arysgrifau neu graffiti. Gallwch hefyd ddewis astudio Lladin neu Roeg hynafol i werthfawrogi'r ffynonellau hyn fel y'u hysgrifennwyd yn wreiddiol.
Ceir llawer o wahanol ffyrdd o astudio'r hen fyd, sy'n eich galluogi i fanteisio ar eich cryfderau a dilyn eich diddordebau penodol. Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i feithrin meddwl yn drylwyr, y gallu i ddadansoddi deunydd cymhleth, ac i gyfleu eich syniadau i wahanol gynulleidfaoedd; dyma sgiliau a fydd yn creu cyfleoedd gyrfa cyffrous mewn ystod eang o broffesiynau.