Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein gradd BA mewn Hanes yr Henfyd a Hanes yn eich galluogi i astudio cyfnod eang o hanes hynafol, canoloesol a modern. Byddwch yn archwilio ystod eang o bynciau, o ddinas-wladwriaethau Groegaidd ac ymerodron Rhufeinig i deyrnasiaethau canoloesol, chwyldroadau modern, a'r syniadau sydd wedi dylanwadu ar gymdeithasau ar draws canrifoedd. P'un a ydych chi'n cael eich denu at fythau a henebion hynafol neu at themâu megis hawliau dynol a chlefyd, mae'r cwrs hwn yn eich galluogi i archwilio holl gymhlethdod hanes.
Mae ein gradd yn sbarduno dadlau cyffrous ynghylch sut rydym ni fel haneswyr yn trefnu astudiaethau o'r gorffennol. Yn hytrach na thrin cyfnodau hanesyddol fel blociau ynysig, mae ein cwrs yn eich annog i feddwl yn feirniadol am y ffiniau cronolegol rydym yn eu gosod ar y gorffennol. Mae themâu allweddol megis pŵer, rhywedd, cred ac ymwrthedd yn torri ar draws rhaniadau traddodiadol, gan eich helpu i ddeall y cyfyngiadau o dorri'r gorffennol yn ddarnau o amser â labeli sefydlog.
Gydag ystod eang o fodiwlau sydd ar agor i chi ar draws holl rychwant hanes (Hynafol, Canoloesol, Modern Cynnar a Modern), bydd gennych chi'r hyblygrwydd i deilwra eich astudiaethau i'ch diddordebau. Efallai y byddwch chi'n canolbwyntio ar hanes yr henfyd a'r canoloesoedd, gan archwilio'r cysylltiadau rhwng yr henfyd a'r byd cyfoes, neu archwilio sut mae syniadau a sefydliadau wedi esblygu dros gyfnodau gwahanol. Sut oedd pŵer yn gweithio mewn cymdeithasau gwahanol? Sut brofiad gafodd cymdeithasau lleiafrifol ar draws hanes? Sut mae dehongliadau o rywioldeb a hunaniaeth rhywedd wedi datblygu dros amser? Byddwn yn eich helpu chi i ddatblygu'r sgiliau i gymharu gwahanol gyfnodau o hanes a gwerthfawrogi'r hyn sydd wedi newid a phryd, a'r hyn sydd wedi aros yr un peth.