Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein BA Hanes yr Henfyd a'r Oesoedd Canol yn archwilio ac yn astudio gwareiddiadau a allai ymddangos fel byd anghysbell ond sy'n dal i fod yn ddylanwadol iawn hyd heddiw. Byddwch yn cael y cyfle i archwilio hanes Ewrop a rhanbarthau Môr y Canoldir o'r Hen Eifftwyr, yr Atheniaid a’r Persiaid i'r Croesgadau, ac o'r Ymerodraeth Rufeinig i deyrnasoedd hynafol Lloegr a Ffrainc yn ogystal ag 'Oes Tywysogion' Cymru gan astudio amrywiaeth o agweddau hanesyddol ac archaeolegol.
Mae'r radd hon yn cynnig nifer o ffyrdd o gymharu'r bydoedd Hynafol a Chanoloesol ac i ddeall y cysylltiadau rhyngddynt. Mae'n ceisio deall sut mae gwareiddiadau hynafol wedi dylanwadu ar gymdeithasau canoloesol, gan archwilio themâu megis pŵer, hunaniaeth, credoau a rhywedd. Mae hefyd yn archwilio'r trawsnewidiad o'r hen fyd i'r byd canoloesol, gan herio natur cyfnodoli ac amlygu pwysigrwydd themâu tebyg sy'n cefnogi ein dealltwriaeth o'r gorffennol pell.
Mae Prifysgol Abertawe mewn rhanbarth sy'n gyfoethog o ran cofebau o'r gorffennol hynafol a chanoloesol, gan gynnwys cestyll, adfeilion abatai a rhai Rhufeinig, ac mae'r rhaglen radd hon yn cyfuno addysgu â chyflwyno myfyrwyr i'r dreftadaeth gyfoethog hon.