Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein gradd BA mewn Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant yn cynnig cyfuniad deinamig o ddamcaniaeth feirniadol a phrofiad ymarferol, gan roi i chi’r sgiliau i ddadansoddi, creu ac arloesi ar draws meysydd newyddiaduraeth chwaraeon, cysylltiadau cyhoeddus, cyfryngau digidol a ffilm.
Mae'r rhaglen hon yn ymgorffori meddwl yn feirniadol, llythrennedd y cyfryngau, a dysgu dan arweiniad ymchwil o'r cychwyn cyntaf. Byddwch yn elwa o addysgu dan arweiniad arbenigwyr sy'n ymroddedig i ymchwil arloesol ym maes y cyfryngau, ochr yn ochr â phrosiectau ac asesiadau byd go iawn sy'n adlewyrchu ymarfer y diwydiant.
Byddwch yn meithrin y sgiliau hanfodol i ddod yn weithiwr proffesiynol hyblyg a myfyriol yn y cyfryngau - yn barod i ymdrin â thirwedd y cyfryngau sy'n newid yn gyflym a chyfrannu ati.
Mae'r radd hon hefyd yn cynnig dealltwriaeth ddyfnach o sut mae chwaraeon, diwylliant chwaraeon, a newyddiaduraeth chwaraeon wedi dylanwadu ar fywyd cymdeithasol a diwylliannol ym Mhrydain gyfoes a’r tu hwnt. Byddwch yn archwilio dylanwad economaidd-gymdeithasol cynyddol chwaraeon ar raddfa fyd-eang.
Drwy astudio cysyniadau fel dilynwyr brwd, hunaniaeth genedlaethol, naratifau chwaraeon, a chynrychiolaeth yn y cyfryngau, byddwch yn meithrin dealltwriaeth feirniadol o sut mae chwaraeon yn cael eu portreadu a'u profi drwy'r cyfryngau a diwylliant heddiw.