Y Cyfryngau a Chyfathrebu, BA (Anrh)

Dysgu Sgiliau Ymarferol am Yrfa

student broadcasting

Trosolwg o'r Cwrs

Mewn byd sy'n cael ei lywio’n gynyddol gan dechnolegau digidol, mae llythrennedd y cyfryngau yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer deall y byd o'n cwmpas ond i ddylanwadu arno'n weithredol.

Mae ein gradd BA yn y Cyfryngau a Chyfathrebu'n cynnig cyfuniad deinamig o theori feirniadol, profiad ymarferol a meddwl blaengar a fydd yn rhoi'r sgiliau i chi ddadansoddi,  creu ac arloesi ym meysydd newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus, cyfryngau digidol a ffilm.

Mae'r rhaglen hon yn ymgorffori meddwl yn feirniadol, llythrennedd y cyfryngau, a dysgu dan arweiniad ymchwil o'r cychwyn cyntaf. Byddwch yn elwa o addysgu gan arbenigwyr, sy'n ymwneud yn uniongyrchol ag ymchwil arloesol yn y cyfryngau, ochr yn ochr â phrosiectau byd go iawn, asesiadau dilys ac amrywiaeth o fodiwlau ymarfer arloesol sy'n adlewyrchu ymarfer y diwydiant.

Mae ein gradd BA yn y Cyfryngau a Chyfathrebu yn sicrhau eich bod yn feirniadol wybodus ac yn meddu ar sgiliau ymarferol, gan sicrhau eich bod yn graddio â'r sgiliau hanfodol i ddod yn weithiwr proffesiynol hyblyg a myfyriol yn y cyfryngau sy'n barod i fynd i’r afael â thirwedd cyfryngau sy'n newid yn gyflym a chyfrannu ati.

Drwy astudio cysyniadau megis hanes a hunaniaeth y cyfryngau, tuedd algorithmig a'r economi wleidyddol ddigidol, byddwch chi'n cael dealltwriaeth hanfodol o sut mae’r cyfryngau yn trawsnewid cymdeithasau ac yn dylanwadu ar fywyd pob dydd.

Pam Y Cyfryngau a Chyfathrebu yn Abertawe?

Addysgir y rhaglen ar gampws hyfryd Parc Singleton, mewn parcdir yn edrych dros Fae Abertawe ac ar ymyl Penrhyn Gŵyr;

Mae Cyfryngau a Chyfathrebu yn Abertawe yn yr:

  • 2il safle yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2026)
  • 5ed safle yn y DU am Lais Myfyrwyr (NSS 2025)*
  • 5ed safle yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)
  • 16eg safle yn y DU (Guardian University Guide 2026)

*yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol fesul pob thema yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025 o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.

Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i'ch paratoi am fywyd ar ôl y brifysgol. Gallwn wneud hyn drwy ddefnyddio ein cysylltiadau â diwydiant a'n pwyslais ar y sgiliau rhyngbersonol penodol a nodwyd gan ein panel diwydiant fel rhai sy'n allweddol yn eu prosesau recriwtio.

Eich Profiad Y Cyfryngau a Chyfathrebu

Trwy ein rhaglen hynod amrywiol a hyblyg, gallwch deilwra eich astudiaethau i'ch diddordebau ac i gyd-fynd â'ch nodau gyrfa.

Mae gan ein rhaglen ystod eang o fodiwlau dewisol i chi ddewis ohonynt. Gallwch ddewis pynciau sy'n cynnwys ymarfer yn y cyfryngau creadigol, astudiaethau ffilm, gan gynnwys dadansoddi a chynhyrchu, cyfryngau cymdeithasol a digidol, ysgrifennu ffuglen, newyddiaduraeth a chysylltiadau cyhoeddus. 

Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys cyfle i dreulio blwyddyn yn astudio dramor neu flwyddyn mewn diwydiant. Mae blwyddyn dramor yn rhoi cyfle i chi wella eich ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol, gan ddatblygu eich sgiliau ym maes newyddiaduraeth ryngwladol a chreu cynnwys.

Gallwch dreulio'r Flwyddyn mewn Diwydiant yn y DU neu dramor, gan roi profiad gwerthfawr i chi o'r gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau cyflogedig, gyda chyflog cyfartalog o £20,000+. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos. Er mai cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau lleoliad, rydym yn gweithio gyda sawl sefydliad sy'n cynnig cyfleoedd amrywiol. Os ydych yn dewis treulio Blwyddyn mewn Diwydiant, byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol y broses cyflwyno cais gyda chyngor, arweiniad ac adnoddau. Os na allwch sicrhau lleoliad erbyn diwedd yr ail flwyddyn astudio, byddwch yn gallu trosglwyddwch i'r rhaglen BSc safonol. 

Os wyt ti'n poeni am fodloni ein gofynion mynediad, beth am ystyried y radd BA Y Cyfryngau a Chyfathrebu gyda Blwyddyn Sylfaen. Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu'n dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer.

Cyfleoedd Cyflogaeth Y Cyfryngau a Chyfathrebu

Mae cysylltiadau agos yr Adran ag amrywiaeth o sefydliadau'r cyfryngau a chyfathrebu yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i gynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd profiad gwaith ac interniaethau ar bob lefel astudio. Rydym yn cael ceisiadau rheolaidd gan sefydliadau lleol sy'n cynnig lleoliadau gwaith â thâl a rhai gwirfoddol, i ddiwallu angen cyflogwyr am fyfyrwyr medrus i lenwi rolau cyfathrebu tymor byr. 

Ar ben hyn, yn y flwyddyn olaf, gallwch gofrestru ar ein modiwl interniaeth sy’n cynnig credydau. Byddwch yn ymgymryd â 50 awr o leoliad gwaith mewn amrywiaeth o rolau cyfathrebu, gan gynnwys mewn gweithleoedd cyfrwng Cymraeg lle bo’n briodol.

Mae’r ymagwedd ragweithiol hon at gyflogadwyedd yn helpu i sicrhau bod ein graddedigion yn gallu datblygu CV sy’n creu argraff dda. Yn ogystal, gall interniaethau gynnig cyfle i chi roi’r ddamcaniaeth a astudiwyd mewn darlithoedd ar waith yn y byd go iawn. Bydd cyfleoedd gwerthfawr hefyd i rwydweithio â gweithwyr proffesiynol, mentoriaid a darpar gydweithwyr yn y dyfodol, a meithrin cysylltiadau sy’n gallu arwain at gynigion neu argymhellion am swyddi amser llawn i’n graddedigion. 

Mae ein graddedigion yn wirioneddol ryngwladol ac wedi cael eu cyflogi ledled y byd mewn meysydd fel:

  • Y Cyfryngau
  • Cyfathrebu
  • Busnes
  • Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata
  • Marchnata Digidol
  • Teledu a Radio
  • Cyhoeddi

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Y Cyfryngau a Chyfathrebu

Y Cyfryngau a Chyfathrebu gyda Blwyddyn Dramor

Y Cyfryngau a Chyfathrebu gyda Blwyddyn mewn Diwydiant