Trosolwg o'r Cwrs
Astudiwch y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg gyda ni a byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy a fydd yn eich galluogi i ddilyn gyrfa gyffrous ym maes y cyfryngau neu feysydd cysylltiedig, yn ogystal â gwybodaeth am lenyddiaeth ac ysgrifennu a allai arwain at amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa ehangach.
Cewch gyfle i ddysgu am gynhyrchu radio a fideo, cyfryngau digidol a chymdeithasol, newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus, brandio a marchnata, yn ogystal ag amrywiaeth o lenyddiaeth o'r Oesoedd Canol i ffuglen gyfoes ac ysgrifennu creadigol a phroffesiynol.
Byddwch yn dysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol mewn diwydiant, academyddion blaenllaw ac awduron y mae eu gwaith wedi cael ei gyhoeddi.
Bydd lleoliad gwaith yn rhoi profiad uniongyrchol i chi o'r cyfryngau a chyfathrebu, a chewch gyfle i astudio semester dramor yn Hong Kong, Singapôr neu UDA.