Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, BA (Anrh)

Astudiwch y Gymraeg, y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus

students working together around a table

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r radd yn diwallu anghenion myfyrwyr a chyflogwyr yr unfed ganrif ar hugain. Mae cyfuno’r ddwy ddisgyblaeth yn rhoi sylfaen academaidd gadarn yn ogystal ag ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a chysylltiedig â’r cyfryngau sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr ac sy’n allweddol i ystod o yrfaoedd yn y Gymru gyfoes. Gwyddom o brofiad y dylech ymgysylltu â chyflogwyr posibl drwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae ein cysylltiadau o fewn y diwydiant ledled Cymru a Phrydain yn golygu bod gennych gyfle i gyfarfod a thrafod eich dyfodol gyda rhai o gynhyrchwyr cysylltiadau cyhoeddus mwyaf blaenllaw'r DU, cyfarwyddwyr ac ymarferwyr.

Pam Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus yn Abertawe?

Byddwch yn elwa o sgiliau a phrofiad awduron a beirdd amlwg ar ein tîm academaidd, gan gynnwys dau Brifeirdd, ac enillwyr cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn. 

Mae Cyfryngau yn Abertawe yn:

  • 8fed yn y DU ar gyfer Boddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2025)
  • 8fed yn y DU ar gyfer Profiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2025)
  • 10fed yn y DU ar gyfer Ansawdd Dysgu (Times Good University Guide 2025)

 

Mae Astudiaethau Celtaidd yn Abertawe:

  • Yn 2il yn y DU yn gyffredinol (Times Good University Guide 2025)

Eich Profiad Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus

Mae ein strwythur gradd hyblyg sy'n cynnig amrywiaeth o fodiwlau dewisol yn rhoi digonedd o gyfle i chi deilwra eich astudiaethau yn unol â'ch diddordebau penodol, eich nodau gyrfa neu'ch uchelgeisiau ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig.

Bydd cyfuno dwy ddisgyblaeth yn golygu y byddwch yn meithrin sylfaen academaidd gadarn yn ogystal ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiad ymarferol yn y cyfryngau y mae cyflogwyr yn rhoi llawer o werth arnynt.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus

Bydd gradd mewn Cymraeg iaith gyntaf, y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus yn arwain at amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa. Yn ogystal â chysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau, byddwch mewn sefyllfa dda i ddilyn gyrfa mewn meysydd fel marchnata, gwleidyddiaeth, cynllunio iaith, busnes, addysg, cyfieithu a gwaith gweinyddol.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

ABB-BBC

Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus

Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus gyda Blwyddyn Dramor

Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus gyda Blwyddyn mewn Diwydiant