Trosolwg o'r Cwrs
Mae tirwedd newyddiaduraeth, yn y DU ac yn fyd-eang, yn datblygu'n gyflym, wedi'i sbarduno gan arloesi technolegol, newid yn ymddygiad cwsmeriaid a dynameg newidiol rhannu gwybodaeth. Mae ein BA Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu wedi'i chynllunio i'ch paratoi i gamu’n hyderus i fyd datblygol y cyfryngau newydd.
Nid yw'r pwyslais ar newyddiaduraeth brint neu ddarlledu draddodiadol yn unig mwyach. Fel myfyriwr newyddiaduraeth gallwch ddod yn fedrus wrth greu cynnwys digidol, rheoli cyfryngau cymdeithasol, podledu, cynhyrchu fideos a ffyrdd rhyngweithiol o adrodd straeon, drwy ddatblygu arbenigedd mewn amrywiaeth o feddalwedd a thechnoleg safonol y diwydiant.
Yn yr un modd, mewn oes sy'n nodweddiadol am gamwybodaeth, newyddion ffug a thwyll digidol, mae newyddiaduraeth foesegol yn bwysicach nag erioed. Mae'r rhaglen hon yn rhoi pwyslais cryf ar foeseg, cyfraith y cyfryngau a gohebu’n gyfrifol am bynciau sensitif - pynciau sy'n hanfodol i'ch galluogi i fynd i'r afael â chymhlethdodau'r gwirionedd yn yr oes ddigidol, gan sicrhau y gallwch gyfrannu at gymdeithas wybodus a chyfranogol.
Mae newyddiaduraeth yn broffesiwn aml-ddimensiwn heddiw, felly yn ogystal ag addysgu i chi egwyddorion craidd damcaniaeth ac ymarfer newyddiaduraeth, mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i chi astudio dylunio graffig, cysylltiadau cyhoeddus, cynhyrchu fideos a brandio. Bydd yr ymagwedd drawsddisgyblaethol hon yn eich paratoi am realiti gweithio mewn timau cyfryngau integredig, lle mae sgiliau newyddiadurol a chreadigol yr un mor bwysig â'i gilydd.
Mae newyddiaduraeth yn fusnes sy'n fwyfwy byd-eang, a dyna pam rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu eich dealltwriaeth o newyddion rhyngwladol a'r gallu i ohebu am faterion o safbwyntiau diwylliannol a geo-wleidyddol amrywiol. Drwy feithrin safbwynt byd-eang, ein nod yw eich paratoi am fyd gohebu rhyngwladol, gan ddatblygu eich gallu i adrodd straeon ar draws platfformau niferus a chyfathrebu â chynulleidfaoedd amrywiol.