Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau, BA (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
students sat around table

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Astudiwch radd mewn Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau gyda ni, a byddwch yn gallu dysgu'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i ddilyn gyrfa lwyddiannus yn y maes cyffrous hwn.

Mae ein cwrs gradd wedi'i achredu gan y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus a chaiff ei addysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant ac academyddion blaenllaw.

Cewch gyfle i astudio cyfathrebu strategol, ymarfer digidol ym maes cysylltiadau cyhoeddus, damcaniaeth cysylltiadau cyhoeddus, strategaeth, marchnata a brandio, busnes ac entrepreneuriaeth, newyddiaduraeth a datblygiad proffesiynol.

Bydd lleoliad gwaith yn rhoi profiad uniongyrchol i chi o gysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau, a bydd gennych opsiwn o astudio semester dramor yn Hong Kong, Singapôr neu UDA.

Pam Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau yn Abertawe?

Wedi'i leoli ar ein campws hyfryd ym Mharc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr;

Mae'r Cyfryngau yn Abertawe yn:

  • 8fed yn y DU ar gyfer Boddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2025)
  • 8fed yn y DU ar gyfer Profiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2025)
  • 10fed yn y DU ar gyfer Ansawdd Dysgu (Times Good University Guide 2025)

Eich Profiad Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau

Rydym yn cynnig cwrs gradd amrywiol a hyblyg, felly gallwch lywio eich cwrs mewn ffordd sy'n gweddu i'ch nodau gyrfa yn ogystal â datblygu eich diddordebau eich hun.

Gallwch ddarganfod pam mae Cysylltiadau Cyhoeddus yn bwysig i lwyddiant pob cwmni, a dysgu am fanteision datblygu cydberthnasau hirhoedlog â chwmnïau a gweithwyr proffesiynol eraill, gan gynnwys gohebwyr newyddion, hysbysebwyr a marchnatwyr, ymarferwyr yn y cyfryngau a gwleidyddion.

Byddwch yn meithrin sgiliau credigol er mwyn rheoli ymgyrchoedd cyfryngau digidol a chyfarwyddo dulliau cyfathrebu strategol rhyngwladol, gan arbenigo mewn cysylltiadau cyhoeddus. Gallwch hefyd astudio llwybrau penodol ym meysydd cyfryngau digidol ac ymarferol, ffilm a newyddiaduraeth.

Byddwch yn meithrin sgiliau cyffredinol â sail eang er mwyn arbenigo mewn astudiaethau pellach neu sgiliau hanfodol ar gyfer y gweithle proffesiynol.

Bydd cyfle i fynd ar leoliad gwaith a threulio semester dramor, sef dau brofiad a fydd yn cyfoethogi eich rhagolygon gyrfa yn fawr.

Bydd gennych Tiwtor Personol a all roi unrhyw gymorth y bydd ei angen arnoch.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau

Mae ein graddedigion Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau wir yn rhyngwladol a chânt eu cyflogi ym mhob cwr o'r byd. Maent yn dilyn gyrfaoedd yn y meysydd canlynol:

  • Hysbysebu
  • Busnes
  • Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata
  • Newyddiaduraeth
  • Marchnata Digidol
  • Teledu a Radio
  • Cyhoeddi

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn cyflwyno cysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau i chi, cyn i chi ddewis eich llwybr eich hun gyda modiwlau sy'n gweddu i'ch diddordebau eich hun.

Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau

Cysylltiadau Cyhoeddus A'r Cyfryngau gyda Blwyddyn Dramor

Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau gyda Blwyddyn mewn Diwydiant