Cymraeg ((Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith), BA (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
students working together

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Beth yw dylanwad rhyngwladol y Gymraeg? Sut mae’r iaith yn gyfrwng diwylliant? Pa mor bwysig a pherthnasol yw creu cynnwys drwy gyfrwng iaith leiafrifol yn yr oes sydd ohoni? Dyma rai o gwestiynau mawrion BA Cymraeg (Ail Iaith) Prifysgol Abertawe.

Dewch i ymgolli mewn llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg, ochr yn ochr â dysgu am hanes cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol yr iaith.
Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o lenyddiaeth gan gynnwys dramâu, straeon byrion a nofelau, yn ogystal â barddoniaeth o'r traddodiad barddol canoloesol i ganeuon protest modern.

Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gadarn o iaith a gramadeg Cymraeg, sosioieithyddiaeth a pholisi cynllunio iaith, ac yn dysgu sgiliau cyfieithu gwerthfawr.

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog ac yn dysgu sut i gyflwyno eich syniadau'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan agor y drws at nifer fawr o yrfaoedd amrywiol.

Pam Cymraeg ((Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith) yn Abertawe?

Mae gradd BA Cymraeg o Brifysgol Abertawe yn bwrw golwg eang ar y Gymraeg mewn cyd-destun rhyngwladol, gan drafod polisiau iaith, llenyddiaeth y byd a chyfieithu.

Mae’r modiwlau wedi’u cynllunio gan ymchwilwyr uchel eu parch yn eu meysydd arbenigol, gyda golwg ar sicrhau eich bod yn meithrin sgiliau trosglwyddiadawy fydd o ddefnydd i chi ym myd gwaith.

Mae Astudiaethau Celtaidd yn Abertawe:
• 2il yn y DU yn gyffredinol (Times Good University Guide 2025)

 

Eich Profiad Cymraeg ((Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith)

Mae pob cam o’n cwrs gradd BA Cymraeg (Ail Iaith) wedi’i gynllunio i sicrhau eich bod yn datblygu’n gyfathrebwyr hyderus ac yn ymchwilwyr craff.

Mae teilwra ein modiwlau a’n hasesiadau i’ch galluogi i feithrin y sgiliau proffesiynol y mae cyflogwyr yn rhoi gwerth arnynt yn bwysig iawn i ni, ac rydym yn cydweithio gyda sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt er mwyn sicrhau bod ein cwrs gradd yn ateb y galw.

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o ddulliau asesu sydd wedi’u cynllunio’n ofalus er mwyn eich galluogi i ennyn sgiliau bydd yn eich helpu chi i gyflawni eich nodau gyrfa neu'ch gobeithion ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig.

Fel un o’n cymuned ddysgu, byddwch yn derbyn cymorth addysgol heb ei ail.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cymraeg ((Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith)

Gall gradd yn y Gymraeg arwain at amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa mewn meysydd fel marchnata, y cyfryngau, gwleidyddiaeth, cynllunio iaith, busnes, gwaith ieuenctid, addysg, cyfieithu a gwaith gweinyddol.

Modiwlau

Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio modiwlau gorfodol sy'n cwmpasu sgiliau beirniadol hanfodol, cyfieithu, y traddodiad barddol a datblygiad yr iaith Gymraeg.

Yn eich ail a'ch trydedd flwyddyn, cewch ddewis o blith amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol ochr yn ochr â phynciau craidd, a fydd yn eich galluogi i lywio eich astudiaethau yn unol â'ch diddordebau penodol.

Cymraeg ((Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith)

Cymraeg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant